Care & Repair Cymru
Ein gwaith?
Care & Repair Cymru yw “Cefnogwr Tai Pobl Hŷn”, corf elusennol cenedlaethol sy’n gweithio i geisio sicrhau bod pob person hŷn yn cael cartref diogel ac addas ar gyfer ei anghenion.
Byddwn yn darparu gwasanaethau ar gyfer y rhwydwaith o 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio ar draws y wlad. Mae’r gwasanaethau hynny’n cynnwys dogfennau polisi a gwybodaeth, digwyddiadau hyfforddi a rhwydweithio, cyd-drefnu cronfa wybodaeth CARIS (Care and Repair Information System), cefnogi Asiantaethau, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu cenedlaethol, cydlynu ceisiadau cyllid i Lywodraeth Cymru a gwerthuso perfformiad/canlyniadau.
Drwy ein gwaith a’r berthynas agos â’r 22 Asiantaeth, byddwn yn gwrando ar anghenion a dymuniadau pobl hŷn, gan drosglwyddo’r rheiny i lunwyr polisïau Llywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yma’n dylanwadu ar syniadau ym maes polisi tai pobl hŷn, a pholisïau iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, sy’n annatod yn gysylltiedig â darparu cartrefi addas safon uchel.
Rheswm am ein gwaith?
Rydym wedi ymrwymo i godi safon tai pobl hŷn yng Nghymru. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar hunan berchnogion & tenantiaid preifat.
Ein gweledigaeth:
Pob person hŷn yng Nghymru i gael cartref cynnes a diogel sy’n diwallu ei anghenion unigol.
Ein cenhadaeth:
Sefydlwyd Care & Repair Cymru er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn gallu derbyn gwasanaethau tai sy’n eu galluogi i fyw mewn tai sy’n diwallu eu hanghenion unigol.












