Care & Repair Cymru Cefnogwch ni

Gallwch gefnogi Care & Repair Cymru mewn amryw ffyrdd, ac wrth wneud hynny helpu i wella bywydau pobl oedrannus ac anabl yng Nghymru sydd am barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain.

Bydd Care & Repair Cymru yn croesawu cymynroddion a rhoddion rheolaidd. Mae cyfraniadau rheolaidd fel hyn yn ein helpu i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Cofiwch gysylltu os am drafod opsiynau o gefnogi Care & Repair Cymru.

Os oes diddordeb gan eich cwmni neu fusnes mewn cefnogi Care & Repair Cymru, cysylltwch â'n Rheolwr Corfforaethol, fydd yn hapus i'ch cynghori.

Gift Aid Declaration

Cymorth Rhodd

Os yn rhoddi arian i Care & Repair Cymru, ac am wneud datganiad cymorth rhodd (gift aid), gallwch wneud hynny ar y safle hwn.

Bydd yn cynnwys pob rhodd ers 6 Ebrill 2000. Llenwch eich manylion ar y ffurflen isod:

Rhoddion rheolaidd

Gallai rhodd misol newid bywydau pobl.

365 dydd y flwyddyn, gwanwyn, haf, hydref, gaeaf, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Rhodd rheolaidd i Care & Repair Cymru yw'r ffordd orau o'n helpu i gynllunio ymlaen llaw, fel bod cyngor a chymorth ar gael i bobl oedrannus ac anabl yng Nghymru - pryd a ble bynnag fo angen.

O dan y rheoliadau treth newydd, gallai pob rhodd gan drethdalwyr y Deyrnas Unedig fod yn werth mwy na 28% i ni. Er enghraifft, os yn rhoi £20, byddai Care & Repair Cymru yn derbyn £25.64. Cyfrannwch heddiw a threfnu swm ychwanegol - heb dalu ceiniog yn fwy!

Os am wybod mwy am roddion treth effeithiol, galwch 029 2057 6286 neu anfonwch ebost at Pat@careandrepair.org.uk.

Cymynroddion

Beth am ystyried gadael rhodd i Care & Repair Cymru yn eich ewyllys?

Gallai eich cyfraniad helpu i wireddu'r weledigaeth o sicrhau bydd pob person oedrannus yng Nghymru yn byw mewn cartref cynnes a diogel.

Rhoddion ar-lein

Mae rhoddion ar-lein yn ffordd syml ac effeithiol o gefnogi Care & Repair Cymru. Bydd y broses yn gwbl ddiogel ac ni throsglwyddir eich manylion i drydydd parti.

Anfon cyfraniad

Byddwn yn dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr. Os am gefnogi ein gwaith wrth wneud cyfraniad ac yn well gennych anfon siec, dyma'r manylion perthnasol:

Siec yn daladwy i Care & Repair Cymru, i'r cyfeiriad isod:

Care & Repair Cymru

Ty Norbury

Heol Norbury

Y Tyllgoed

Caerdydd

CF5 3AS

Gift Aid Declaration Document