Cynllun Strategol Pum Mlynedd – Adeiladu ar gyfer y Dyfodol
Mae'r Cynllun Strategol pum mlynedd (Adeiladu ar gyfer y Dyfodol) ar gyfer y mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru yn strategaeth a gynhyrchwyd mewn partneriaeth rhwng Care & Repair Cymru, y 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Nod Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yw rhoi fframwaith sy'n:
- adnabod ac ymateb i'r heriau
- arddangos gwerth am arian Gofal a Thrwsio wrth helpu i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a lleol ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn mewn partneriaeth gyda Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- parhau i ddarparu gwerth am arian
- annog gwella gwasanaeth a
- galluogi arloesedd tra'n cadw cryfderau craidd dull gweithredu Gofal a Thrwsio
Mae'r Cynllun Strategol yn nodi llwybr clir ar gyfer dyfodol cryf ar gyfer Gofal a Thrwsio yng Nghymru.
Cliciwch yma i lawrlwytho copi.

