Asiantaethau Gofal a Thrwsio
Asiantaethau Gofal a Thrwsio
Mae Asiantaethau Gofal a Thrwsio yn helpu pobl oedrannus ac anabl sy'n berchen eu cartrefi i barhau i fyw ynddynt, mor annibynnol â phosibl o fewn eu cymunedau, wrth ddarparu gwybodaeth am opsiynau i wneud eu cartrefi'n fwy hwylus, diogel a chyffyrddus.
Byddant yn gwneud hynny wrth ddwyn at ei gilydd yr arbenigedd a chyllid angenrheidiol i wneud y gwaith trwsio, adnewyddu a/neu addasu er mwyn eu galluogi i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Byddant yn darparu cyngor a gwybodaeth, helpu gyda cheisiadau am grantiau pan fo angen, ac awgrymu adeiladwyr dibynadwy.
Gall y gwaith amrywio o eitemau bach megis tap yn diferu a gosod rheiliau llaw neu gloeon newydd, i waith mawr fel adeiladu ystafell ymolchi arbennig neu osod to newydd.
Bydd Asiantaethau Gofal a Thrwsio yn cefnogi pobl oedrannus ac anabl drwy'r holl broses.
Mae Asiantaeth Gofal a Thrwsio ym mhob sir yng Nghymru. Am gyfeiriad eich Asiantaeth leol, edrychwch drwy'r rhestr a chlicio ar enw'r un agosaf.
