Hanes

Datblygwyd gwasanaethau Gofal a Thrwsio mewn ymateb i ymwybyddiaeth gynyddol o'r problemau tai oedd yn wynebu perchnogion tai oedrannus. Mae pob cartref angen sylw rheolaidd ond datgelwyd fod llawer o bobl oedrannus yn byw mewn tai oedd angen mwy o waith arnynt yn gyffredinol. Gallai'r problemau ddechrau'n fach ond heb eu datrys gallent arwain at broblemau mwy a hyd yn oed at waith adnewyddu sylweddol. Yn anffodus, i lawer o bobl mewn oed yn ymdopi ar incwm isel, nid oedd modd talu am y gwaith trwsio hwnnw.

O ganlyniad roedd miloedd o bobl mewn oed yn byw mewn cartrefi llaith, afiach & peryglus. Roedd llawer heb gyfleusterau sylfaenol megis dwr poeth neu doiled mewnol. Yn aml, yr amgylchiadau gwael hyn oedd y rheswm pam oedd pobl mewn oed yn diweddu mewn ysbyty, un ai oherwydd salwch neu ddamwain.

Yn 1990 sefydlwyd Care & Repair Cymru gan y Swyddfa Gymreig gyda'r nod o ddatblygu gwaith mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru.

  • erbyn 1993 roedd 10 Asiantaeth
  • tua diwedd 1995 roedd 20
  • erbyn hyn mae 22 Asiantaeth, un ym mhob sir, gan wasanaethu Cymru gyfan.