Taflenni Gwybodaeth Addasiadau Cartrefi

Yn dilyn adolygiad gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol, un o'r meysydd a ddynodwyd ar gyfer gwella oedd ansawdd a hygyrchedd gwybodaeth i bobl hŷn ar sut i gael mynediad i addasiadau tai a gwelliannau eraill i gartrefi.
Mewn partneriaeth gyda Age Cymru, y Coleg Therapyddion Galwedigaethol a'r Comisiynydd Pobl Hŷn, mae Care & Repair Cymru felly wedi datblygu taflen A5 syml a bydd yn dosbarthu 40,000 ohonynt mewn safleoedd addas ledled Cymru.
Rydym hefyd wedi datblygu e-daflen gyda gwybodaeth fanylach a chysylltiadau i nifer o sefydliadau eraill, yn cynnwys Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai.
Mae dolenni i'r e-daflen islaw.
cliciwch yma i lwytho’r ddogfen (Word)
cliciwch yma i lwytho’r ddogfen (pdf)

