Maniffesto ar gyfer etholiadau Awdurdodau Lleol Cymru 2012
Lansiwyd maniffesto grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru heddiw yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd mewn digwyddiad gyda'r teitl 'Dan un to'. O fewn y maniffesto, galwodd Care & Repair Cymru am well datrysiadau cyllid i bobl hŷn sy'n byw yn yr amodau tai gwaethaf. Mae Benthyciadau Arbrisiant Eiddo yn enghraifft o'r hyn y cred CRC y gellid ei ddefnyddio ar gyfer y diben yma.
Yn y lansiad esboniodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru, ei bod yn anodd iawn canfod cyllid i helpu pobl hŷn sydd angen atgyweiriadau i'w cartref a medrai Benthyciadau Arbrisiant Eiddo neu gynlluniau rhyddhau ecwiti tebyg roi datrysiad cynaliadwy wrth i fenthyciadau gael eu had-dalu a'u hailgylchu yn fenthyciadau pellach.
Mae CRC yn edrych ymlaen at drafod y cynllun ymhellach gyda Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.
Cliciwch yma i lawrlwytho copi o'n maniffesto
Cliciwch yma i adael adborth neu anfon eich sylwadau atom
Maniffesto Care & Repair Cymru 20101-2011
Mae Care & Repair Cymru yn deall y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn y sectorau statudol a'r trydydd sector ar hyn o bryd.
Nod Maniffesto 2010/11 yw nodi'r problemau a wynebir gan lawer o bobl hŷn sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae hefyd yn amlinellu sut bydd ein gwasanaethau'n darparu atebion cost effeithiol ar gyfer pobl yn byw mewn cartrefi anaddas, ac ansawdd a gwerth ein gwasanaethau i'r llywodraeth a'r sectorau tai, iechyd a gofal cymdeithasol.
Cliciwch yma i lwytho copi o'r maniffesto
Cliciwch yma i ymateb neu nodi sylwadau

