Datganiad I’r Wasg - Adre o'r ysbyty
Gofal a Thrwsio yn hwyluso gadael ysbyty Bydd Gofal a Thrwsio yn lansio gwasanaeth newydd ‘Adre o’r Ysbyty’ yn Ysbyty Bae Colwyn heddiw (19 Mehefin 2008). Bydd llawer o bobl hŷn yn poeni am ddychwelyd adref o’r ysbyty oherwydd pryderon am ddiogelwch eu cartref a chost addasiadau angenrheidiol. Bydd Adre o’r Ysbyty, gyda chyllid gan Lywodraeth y Cynulliad, yn darparu gwybodaeth am opsiynau llety a gwasanaethau Gofal a Thrwsio ar gyfer pobl mewn oed. Y nod yw eu helpu i wneud penderfyniadau doeth wrth fynd adref o’r ysbyty. Yn ogystal, bydd gweithiwr achosion Gofal a Thrwsio ar gael i ymweld â phobl yn yr ysbyty i drafod unrhyw broblemau ac ymchwilio’r opsiynau. Wrth lansio’r gwasanaeth, dywedodd y dirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol Gwenda Thomas AC: “Bydd Adre o’r Ysbyty yn helpu i leddfu pryderon a hwyluso’r broses o ddychwelyd adref. Llongyfarchiadau i Gofal a Thrwsio ar y datblygiad dyfeisgar yma”.
Ychwanegodd Nicola Maund - gweithiwr achosion gyda Gofal a Thrwsio Conwy “Rwy’n siŵr bydd Gofal a Thrwsio yn cefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd drwy’r broses o adael ysbyty ac yn helpu mwy o bobl i fyw’n annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain”. Bydd Gofal a Thrwsio yn cynnal peilot o’r gwasanaeth gyda dau ysbyty - ysbyty Bae Colwyn, Conwy, ac ysbyty Ystrad Mynach, Caerffili.
Sefydlwyd Asiantaethau Gofal a Thrwsio er mwyn galluogi pobl hŷn sy’n berchen eu cartrefi i barhau i fyw ynddynt, o fewn eu cymunedau ac mor annibynnol â phosibl. Byddant yn gwneud hynny wrth wella cyflwr cartrefi gan eu gwneud yn fwy cysurus, iach a diogel. Mae 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio yn gweithio drwy Gymru.
Care & Repair Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n hyrwyddo, datblygu a chefnogi gwasanaethau Asiantaethau Gofal a Thrwsio ar gyfer pobl hŷn ac anabl. Gwybodaeth bellach Rachel Gingell neu Vera Brinkworth ( 029 2057 6286
