Care & Repair Cymru yn croesawu cyllid parhaus i gefnogi pobl hŷn bregus yng Nghymru
Mae Care & Repair Cymru wedi croesawu pecyn cenedlaethol gwerth £6.6 miliwn i helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain. Cyhoeddwyd y cyllid (heddiw) gan y Dirprwy Weinidog Tai, Jocelyn Davies AC, ar ymweliad â Gofal a Thrwsio Conwy. Clustnodwyd £4.5m o’r pecyn ar gyfer Care & Repair Cymru ac Asiantaethau Gofal a Thrwsio unigol drwy’r wlad fel cyfraniad at eu costau gweithredu. Bydd y gwasanaeth yn helpu pobl i wella’u cartrefi, yn cynnwys gwaith adnewyddu ac addasu, rheoli gwaith adeiladu a chynghori ar gontractwyr dibynadwy.Yn ogystal, neilltuwyd £2.1m ar gyfer y Rhaglen Addasiadau Brys, y mae Gofal a Thrwsio’n chwarae rhan bwysig yn ei chynnal. Defnyddir yr arian i dalu am welliannau brys er mwyn hwyluso gadael ysbyty neu helpu i osgoi triniaethau yn y dyfodol. Gall y gwaith gynnwys:
- Rampiau bach i hwyluso mynediad
- Larymau diogelwch cymunedol
- Rheiliau llaw mewnol ac allanol
- Mesurau i hwyluso defnyddio toiledau
- Lefelu llwybrau
- Mesurau diogelwch ee lloriau/grisiau/muriau.
Croesawodd Wendy Bourton OBE, prif weithredwr Care & Repair Cymru, y cyhoeddiad:
“Rydym yn falch iawn o gyhoeddiad heddiw, yn arbennig gyda’r sefyllfa economaidd mor ddyrys. Mae’r pecyn cyllid hwn yn dangos ymrwymiad a hyder mewn gwasanaethau Gofal a Thrwsio ar draws y wlad. Sefydlwyd Asiantaethau Gofal a Thrwsio er mwyn helpu hunan berchnogion hŷn i barhau i fyw’n gynnes a diogel yn eu cartrefi eu hunain.”
Ychwanegodd Jocelyn Davies:“Mae mudiad Gofal a Thrwsio yn darparu gwasanaeth gwerthfawr sy’n galluogi pobl hŷn ac anabl drwy Gymru i barhau i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae addasiadau syml i gartrefi, megis gosod rheiliau llaw neu ddiogelu stepiau yn gallu cael effaith enfawr ar ansawdd bywydau pobl.“Yn ogystal â’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, bydd Gofal a Thrwsio yn chwarae rôl bwysig ar agendau cynaladwy a fforddiadwy Llywodraeth y Cynulliad. Bydd galluogi pobl hŷn i barhau i fwy’n gysurus a diogel yn eu cartrefi, wrth drefnu rhaglen o waith trwsio ac addasu, nid yn unig yn gwella iechyd a lles unigolion ond hefyd yn helpu i gynnal cymunedau ar draws y wlad.”
Gwybodaeth bellach
Vera Brinkworth, Care & Repair Cymruffôn 029 2057 6286symudol 07776 307116

