CRC a CRC Trefniant Cydweithio

2nd March 2010

Mae Care & Repair Cymru (CRC) a Cartrefi Cymunedol yn falch i gyhoeddi eu bod wedi dechrau ar broses ymgynghori ffurfiol gyda’u haelodau ar ffurfio trefniant cydweithio agosach rhwng y ddau gorff.  Yn dilyn cymeradwyaeth Bwrdd, mae’r ddau gorff wedi dechrau trafodion cyfreithiol a diwydrwydd dyladwy i ymrwymo i strwythur ffurfiol, a chredant y medrant drwy’r trefniant hwnnw ddod yn fwy effeithiol, gweithio’n well ac fel canlyniad sicrhau mwy i’w haelodau a’u buddiolwyr.  Y bwriad yw rhoi strwythur ffurfiol ar waith a fydd yn diogelu hunaniaeth ar wahân CRC a Cartrefi Cymunedol. Bydd Bwrdd Rheoli presennol CRC a Chyngor Cenedlaethol presennol Cartrefi Cymunedol yn parhau i lywodraethu’r ddau gorff.  Wrth siarad am y cydweithio arfaethedig, dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol, “Gyda’r toriadau disgwyliedig mewn cyllidebau, mae angen i ni gryfhau’r achos dros fuddsoddiad mewn tai a gwasanaethau tai, a dangos yn gliriach sut y medrai buddsoddiad mewn tai helpu llywodraeth i gyflawni llawer o’i hamcanion iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd effeithiol o ran cost. Bydd mwy o integreiddio mewn cyrff yn y maes tai megis Cartrefi Cymunedol a CRC yn helpu i gryfhau llais tai ar lefel genedlaethol a lleol”.  Dywedodd Wendy Bourton, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol “Mae’n bwysig fod sefydliadau tai yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i’r llywodraeth i ddarparu gwell gwerth am arian am wariant cyhoeddus. Bydd y trefniadau cydweithio hyn, rhwng dau gorff cryf ac uchel eu parch, yn rhoi llais cryfach i’r maes tai, yn helpu’r ddau sefydliad i gyflawni eu gwasanaethau a’u hamcanion yn fwy effeithiol, a sicrhau’r potensial am ail-fuddsoddi arbedion effeithiolrwydd i’n gwasanaethau sy’n helpu cleientiaid agored i niwed sy’n byw mewn tai gwael”.  Bydd y gwaith ar ddatblygu manylion y strwythur ffurfiol yn parhau, a chaiff ei ystyried gan Fwrdd CRC a Chyngor Cenedlaethol Cartrefi Cymunedol yn yr wythnosau a misoedd nesaf.  

 

 

 

 

 

---DIWEDD---  

I gael gwybodaeth bellach ar Cartrefi Cymunedol, cysylltwch â: Edwina O’Hart, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, Cartrefi CymunedolFfôn: 029 2055 7414 Symudol: 075 1169 4450  E-bost: edwina-ohart@chcymru.org.uk Mae Nick Bennett, Prif Weithredydd ar gael ar gyfer cyfweliadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 I gael gwybodaeth bellach ar Care & Repair Cymru, cysylltwch â: Vera Brinkworth, Pennaeth Materion Allanol, Care & Repair CymruFfôn: 02920 576286 Symudol: 07776 307116 E-bost: vera.brinkworth@careandrepair.org.uk Mae

Wendy Bourton, Prif Weithredydd Care & Repair Cymru, ar gael ar gyfer cyfweliadau.

Nodyn i’r Golygydd 

Cartrefi Cymunedol yw corff aelodaeth cymdeithasau tai a sefydliadau tai cymunedol cydfuddiannol, sydd oll yn ddielw ac yn darparu tua 112,000 o gartrefi a gwasanaethau ledled Cymru. Fel elusen gofrestredig, ein hamcanion yw: ·        

  • hyrwyddo’r sector tai gwirfoddol yng Nghymru      
  • hyrwyddo lliniaru caledi ariannol drwy ddarpariaeth tai cymdeithasol cost isel gan y sector        
  • darparu gwasanaethau, addysg, hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth i ddarparwyr tai o’r fath yng Nghymru     
  • annog a hwyluso darpariaeth, adeiladu, gwella a rheolaeth tai cymdeithasol cost isel gan gymdeithasau tai yng Nghymru  

Care & Repair Cymru yw corff cenedlaethol Gofal a Thrwsio yng Nghymru, a Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn. Mae’r 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio ar draws Cymru yn helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o annibyniaeth ac urddas. Sicrheir hyn drwy gynnal a hwyluso addasiadau, atgyweiriadau a gwelliannau ar gyfer pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.