Cyllid ychwanegol ar gael i blbl hyn yng Nghymru
Mae Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, wedi cyhoeddi bod £4.9 miliwn ar gael i helpu pobl hŷn a phobl anabl ledled Cymru i aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r cyllid wedi cael ei ddyfarnu i Ofal a Thrwsio Cymru ac i’r asiantaethau Gofal a Thrwsio unigol ledled Cymru. Dyma wasanaeth sy’n helpu pobl hŷn a phobl anabl i drwsio, gwella ac addasu eu cartrefi er mwyn iddynt allu parhau i fyw yno. Gwneir hyn trwy gynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys:
- cyngor am y dewisiadau posibl mewn perthynas â thai
- cyngor am faterion ariannol a thechnegol
- cymorth ymarferol i lenwi ffurflenni, i ddod o hyd i adeiladwyr dibynadwy, i drefnu cynlluniau ac amserlenni gwaith, ac i archwilio ansawdd y gwaith adeiladu
- cydlynu’r holl wasanaethau sydd eu hangen i wneud y gwaith
- cynnig atebion cyflym yn y fan a’r lle
Meddai Jocelyn Davies:"Mae Gofal a Thrwsio’n darparu gwasanaeth gwerthfawr sy’n caniatáu i bobl hŷn a phobl anabl ledled Cymru barhau i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi cyhyd â phosibl. Gall addasiadau syml, fel gosod canllawiau bach neu risiau gwell, wneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywyd.“Yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol, mae Gofal a Thrwsio hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn perthynas ag agendâu fforddiadwyedd a chynaliadwyedd Llywodraeth y Cynulliad. Mae galluogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi’n glyd ac yn ddiogel nid yn unig yn gwella’u hiechyd a’u lles emosiynol hwy, ond hefyd, trwy wella’u cartrefi, yn uno cymunedau ac yn eu gwneud yn fwy cynaliadwy.”"Bydd y cyllid hwn, sef cynnydd o 9.47% o’i gymharu â’r flwyddyn ariannol bresennol, yn caniatáu i Ofal a Thrwsio barhau gyda’r gwaith hollbwysig maen nhw’n ei wneud yn y gymuned."Meddai Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol:“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o wella bywydau pobl hŷn drwy sicrhau bod y genhedlaeth hŷn yn byw'n annibynnol cyhyd ag y maent yn dewis gwneud hynny. Mae Pobl yn byw’n hirach, a dylent hefyd allu byw bywydau o ansawdd da. Trwy’r buddsoddiad hwn, gallwn gefnogi mwy o bobl i aros gartref, lle maen nhw’n dymuno bod.“Mae’r arian hefyd yn helpu pobl hŷn i ddychwelyd adref yn gynt ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty. Dyma enghraifft o sut mae Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio i wella’r gofal a roddir i gleifion ac i fynd i’r afael ag achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal.”

