Datganiad ar y Cyd Gan Cartrefi Cymunedol a Care & Repair Cymru

30th April 2010

 Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Chwefror fod Care & Repair Cymru a Cartrefi Cymunedol yn ymgynghori gyda'u haelodau am ffurfio trefniant cydweithio agosach, mae Bwrdd Rheoli Care & Repair Cymru a Chyngor Cenedlaethol Cartrefi Cymunedol wedi cytuno i symud ymlaen gyda strwythur grŵp.

Gwneir penderfyniad terfynol cyfranddalwyr Care & Repair Cymru mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a gynhelir ar 18 Mai.

Bydd y strwythur grŵp yn gweld Cartrefi Cymunedol fel y rhiant-gorff cyfreithiol a Care & Repair Cymru yr is-gorff.  Cytunwyd ar y manylion ymarferol dilynol:

  • Ethos y grŵp fydd un o bartneriaeth sy'n defnyddio nerth y ddau gorff, er mwyn rhoi llais ymgyrchu cryfach i'r maes tai, a chyflenwi gwasanaethau ac amcanion mewn modd mwy effeithlon o ran cost.
  • Cedwir annibyniaeth, hunaniaeth sefydliadol, cenhadaeth ac amcanion y ddau gorff.
  • Caiff cyllid ddau gorff ei neilltuo.
  • Bydd Bwrdd Rheoli Care & Repair Cymru yn cadw'r cydbwysedd gofynnol o aelodau o lywodraeth leol, iechyd, sector gwirfoddol, academaidd, annibynnol a chymdeithasau tai sydd eu hangen i barhau i lobio'n effeithlon dros a chyflenwi gwasanaethau tai ansawdd uchel i bobl hŷn ledled Cymru
  • Ni fydd Cartrefi Cymunedol yn ffurfio mwyafrif cyfranddalwyr ar fwrdd Care & Repair Cymru
  • Dywedodd Peter Cahill, Cadeirydd y Cyngor Cenedlaethol: "Rwy'n hynod falch gyda phenderfyniad y Cyngor Cenedlaethol a Bwrdd Care & Repair Cymru i symud ymlaen gyda'r trefniant hwn. Bydd y bartneriaeth yn cryfhau'r ddau gorff, gan roi llais cryfach i'r maes tai mewn sbectrwm ehangach o gymdeithas, a hwyluso perthynas waith ar brosiectau cyffredin."
  • Hefyd yn siarad am y cydweithredu arfaethedig, dywedodd David Lewis, Cadeirydd Care & Repair Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych i'r ddau gorff. Edrychwn ymlaen at amserau cyffrous lle medrir defnyddio nerth y ddau gorff i roi cyfanswm sy'n fwy na'r ddau ran".

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

I gael mwy o wybodaeth ar Cartrefi Cymunedol, cysylltwch â:

Edwina O'Hart, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus, Cartrefi Cymunedol

Ffôn: 029 2055 7414 Symudol: 075 1169 4450  E: edwina-ohart@chcymru.org.uk

Mae Nick Bennett, Prif Weithredydd, ar gael ar gyfer cyfweliadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

I gael mwy o wybodaeth am Care & Repair Cymru, cysylltwch â:

Vera Brinkworth, Pennaeth Materion Allanol, Care & Repair Cymru

Ffôn: 02920 576286 Symudol: 07776 307116 E: vera.brinkworth@careandrepair.org.uk  

 Cartrefi Cymunedol yw'r corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai a sefydliadau tai cymunedol cydfuddiannol, sydd oll yn gyrff di-elw ac yn darparu tua 112,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru.

Fel elusen gofrestredig ein hamcanion yw:

  • hyrwyddo'r sector tai gwirfoddol yng Nghymru
  • hyrwyddo lliniaru caledi ariannol drwy ddarpariaeth y sector o dai cymdeithasol ar gost isel
  • darparu gwasanaethau, addysg, hyfforddiant, cyngor a chymorth i ddarparwyr tai o'r fath yng Nghymru
  • annog a hwyluso darpariaeth, adeiladu, gwella a rheoli tai cymdeithasol cost isel gan gymdeithasau tai yng Nghymru

Care & Repair Cymru yw corff cenedlaethol Gofal a Thrwsio yng Nghymru, a Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn.

Mae 22 o asiantaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru yn helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o annibyniaeth ac urddas. Cyflawnir hyn drwy wneud a hwyluso addasiadau, atgyweiriadau a gwelliannau i bobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.