Golau Gwyrdd i Strwythur Grwp
Mae Cartrefi Cymunedol a Care & Repair Cymru wedi cael y golau gwyrdd terfynol i ffurfio strwythur grŵp.
Roedd Cyngor Cenedlaethol Cartrefi Cymunedol eisoes wedi cymeradwyo cynlluniau i ffurfio'r strwythur ac mewn Cyfarfod Grŵp Arbennig a gynhaliwyd gan Care & Repair Cymru, pleidleisiodd cyfranddalwyr ar newidiadau i alluogi Cartrefi Cymunedol i ddod y rhiant gorff. Roedd y rheolau yn nodi bod angen i 75% o'r pleidleisiau fod o blaid ac yn y cyfarfod, pleidleisiodd 98% o'i gyfranddalwyr dros y newid.
Mae'r ddau sefydliad wedi amlinellu gweithgareddau ar gyfer cydweithredu ac mae'r gwaith yn awr yn mynd rhagddo i gwblhau'r gwaith cyfreithiol, llywodraethu ac ariannol sydd ei angen i sefydlu strwythur grŵp a gobeithir cael hyn i gyd yn ei le erbyn 1 Gorffennaf. Nick Bennett fydd Prif Weithredydd y Grŵp a chaiff ei gefnogi gan Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care and Repair Cymru, Phillipa Knowles, Cyfarwyddydd Gwasanaethau Canolog a Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi a Menter Gymdeithasol. Bydd y ddau gorff yn cadw eu hunaniaethau, rolau a chyfrifoldebau ar wahân.
Dywedodd Phillipa Knowles: "Mae hwn yn amser gwirioneddol gyffrous i'r ddau gorff. Mae potensial enfawr i'r grŵp gyflawni dros y blynyddoedd i ddod yn nhermau lobio a gweithgareddau ar y cyd a bydd hyn yn newyddion da i bobl Cymru sydd angen tai - faint bynnag yw eu hoedran neu beth bynnag yw eu hamgylchiadau. Mae staff y Grŵp yn edrych ymlaen yn fawr at roi'r cynlluniau a wnaed dros yr ychydig fisoedd diwethaf prysur iawn ar waith a dechrau gweld manteision cydweithredu."
Ychwanegodd Chris Jones: "Mae'r cydweithio hwn yn gwneud synnwyr gwych. Mae staff y ddau gorff yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth a chryfhau achos ei gilydd. Gall pobl hŷn sy'n byw mewn anheddau sy'n anaddas ar gyfer eu hanghenion ar hyn o bryd fod yn sicr y bydd y bartneriaeth yn helpu i gyflwyno eu neges, a helpu i gryfhau gwasanaethau tai ar gyfer pob person hŷn ledled Cymru".
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag
Edwina O'Hart, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol, 02920 557414
Vera Brinkworth, Pennaeth Materion Allanol, Care & Repair Cymru, 029 20576286
Nodiadau i'r Golygydd
Cartrefi Cymunedol yw corff aelodaeth cymdeithasau tai a sefydliadau cymunedol cydfuddiannol, sydd oll yn gyrff dielw ac yn darparu tua 112,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru.
Fel elusen gofrestredig ein hamcanion yw:
- hyrwyddo'r sector tai gwirfoddol yng Nghymru
- hyrwyddo lliniaru caledi ariannol drwy ddarpariaeth y sector o dai cymdeithasol cost-isel
- darparu gwasanaethau, addysg, hyfforddiant, gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i ddarparwyr tai o'r fath yng Nghymru
- annog a hwyluso darpariaeth, adeiladu, gwella a rheolaeth tai cymdeithasol cost isel gan gymdeithasau tai Cymru.
Care & Repair Cymru yw corff cenedlaethol Gofal a Thrwsio yng Nghymru, Hyrwyddwr Tai Pobl Hŷn.
Mae'r 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio ledled Cymru yn helpu pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o annibyniaeth ac urddas. Gwneir hyn drwy gynnal a hwyluso addasiadau, atgyweiriadau a gwelliannau ar gyfer pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.

