Cyngor atal damweiniau
Cyngor atal damweiniau
Fel rhan o'r Wythnos Ymwybyddiaeth Syrthio (21 - 25 Mehefin) mae Care & Repair Cymru wedi llunio dalen ffeithiau er mwyn rhoi Cyngor Osgoi Baglu, Llithro a Syrthio.
Er y paratowyd y ddalen ar gyfer pobl hŷn, mae'n rhoi cyngor syml ac ymarferol o fudd i bawb.
Dywedodd Chris Jones, cyfarwyddwr gweithredu Care & Repair Cymru: "Bydd pobl hŷn yn dioddef y rhan helaeth o ddamweiniau difrifol yn eu cartrefi, gyda chyfran uchel iawn ar ôl baglu, llithro neu gwympo. Y nod wrth roi cyngor syml fel hyn, megis cadw grisiau'r glir, yw helpu i osgoi damweiniau cas a chadw cleientau'n ddiogel.
"Ar bob amser bydd staff Gofal a Thrwsio yn cynghori cleientau os yn sylwi potensial beryglon wrth ymweld â'u cartrefi, ond y gobaith gyda'r ddalen hon yw atgoffa pobl fod osgoi yn well na syrthio."
Gellir llwytho'r daflen oddi wrth rhan Cyhoeddiadau o fewn gwefan Gofal a Thrwsio
Y llynedd (2009/10) helpodd Asiantaethau Gofal a Thrwsio dros 49,000 o bobl hŷn i drwsio ac addasu eu cartrefi.
Gwybodaeth bellach
Vera Brinkworth, Care & Repair Cymru
ffôn 029 2057 6286 symudol 07776 307116

