Gwahoddiad "Tweet i'r Comisiynydd"
31 Gorffennaf 2010
"Tweet" i'r Comisiynydd
Bydd Gofal a Thrwsio yn gwahodd ymwelwyr â'i stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol i anfon "tweet" at y Comisiynydd Pobl Hŷn gyda sylwadau ar dai yng Nghymru.
Bydd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn ymweld â'r stondin am 3.30pm Mercher 4 Awst i glywed barn pobl hŷn yn uniongyrchol am dai a gwasanaethau tai yng Nghymru.
Yn ystod yr ymweliad, bydd yn lansio rhif ffôn cenedlaethol newydd Gofal a Thrwsio - 0300 111 3333. Bydd yn cyfeirio galwyr yn otomatig at yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio yn eu hardal.
Dywedodd Chris Jones, rheolwr gyfarwyddwr Care & Repair Cymru "Mae tai, sef ein cartrefi, yn bwysig iawn i bawb, dim ots pa oedran. Mae Cymru yn rhan o gymdeithas sy'n heneiddio, gyda mwy ohonom yn byw yn hirach. Yn y cyd-destun hwnnw, mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn awyddus i glywed am faterion a phryderon tai pobl hŷn.
"Rydym am weld pob person hŷn yng Nghymru yn byw mewn cartref cynnes a diogel. Wrth helpu i grynhoi sylwadau pobl hŷn, byddwn yn helpu'r Comisiynydd fel llais pobl hŷn i gael dylanwad ar a gwella opsiynau tai ar draws y wlad."
Ychwanegodd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru "Y neges gyson byddaf yn clywed gan bob hŷn, eu perthnasau a'r bobl yn gweithio gyda nhw yw'r pwysigrwydd o'u helpu i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain mor hir ag yw'n ymarferol.
Mae hynny'n cynnwys helpu i gynnal annibyniaeth, rhwydweithiau cymdeithasol ac adnoddau cymunedol gwerthfawr. Bydd yr holl bethau hyn yn cael effaith bositif ar iechyd a lles pobl, ac yn gallu gostwng y galw ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol."
Gwybodaeth bellach:
Vera Brinkworth, Care & Repair Cymru
ffôn 029 2057 6286 symudol 07776 307116

