Cyhoeddiad Llywodraeth y Cynulliad am £9m i ddarparu gofal a chymorth mewn modd sy'n parchu urddas yn "Newyddion gwych i bobl hŷn sy'n dymuno parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain"

7th October 2010

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, y dyfarnwyd £9 miliwn i Raglen Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent, yn bennaf o dan gynllun Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y cyllid yn hwyluso gofal i bobl fregus yn eu cartrefi.

Croesawodd Care & Repair Cymru y newyddion, a sôn am rôl hollbwysig tai yn Rhaglen Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent.

"Mae ein profiad hir o ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn yn byw yn eu cartrefi ein hunain yn dweud wrthym mai dyma'r amgylchedd y mae orau ganddynt fod ynddi pan fyddant yn derbyn gofal iechyd a chymorth arall. Mae'n gwneud synnwyr perffaith gan y bydd yn gostwng nifer y bobl sy'n gorfod mynd i'r ysbyty, yn golygu y bydd y rhai sy'n mynd i ysbyty yn aros am gyfnodau byrrach, yn arbed arian, a hynny'r un pryd â rhoi'r gwasanaethau sydd orau gan bobl hŷn", meddai Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru.

  "Nod gwasanaethau Gofal a Thrwsio yw helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol ac yn gysurus a diogel yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd. Rydym felly'n naturiol yn croesawu'r cyhoeddiad hwn sydd hefyd yn ymwneud â chynyddu byw annibynnol. Byddwn yn trafod gyda Rhaglen Gofal i Bobl Fregus yng Ngwent sut y gall gwasanaethau Gofal a Thrwsio helpu'r Rhaglen, er enghraifft drwy wneud atgyweiriadau, addasiadau neu ddatrysiadau pwrpasol eraill a fydd yn gwneud amgylchedd cartref unigolyn yn addas ar gyfer darparu pecynnau gofal ac iechyd."

Nod y Rhaglen yw:

  • dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd er mwyn helpu i gysylltu â'r person iawn ar yr adeg iawn;
  • cydlynu cyfathrebu fel bod gan bobl un person allweddol i fod yn gyfrifol am lywio pobl trwy'r system a bod y prif bwynt cyswllt;
  • sicrhau'r lefel briodol o ran ymateb a all amrywio yn ôl faint o gymorth sydd ei angen ar unrhyw adeg arbennig;
  • helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol;
  • darparu gofal yng nghartrefi pobl neu'n agos at eu cartrefi, fel nad oes rhaid iddyn nhw aros yn yr ysbyty pan nad oes gwir angen gwneud hynny;
  • sicrhau arbedion effeithiolrwydd gwerth tua £1 miliwn bob blwyddyn.

DIWEDD

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda â:

  Vera Brinkworth, Care & Repair Cymru

Ffôn: 029 20576286   Symudol: 07776 307116

 Nodiadau i'r golygydd

Mae Care & Repair Cymru yn sefydliad sector gwirfoddol gyda statws elusennol. Ef yw'r corff cenedlaethol ar gyfer Gofal a Thrwsio yng Nghymru, a "Chefnogwr Tai Pobl Hŷn". http://www.careandrepair.org.uk/

Mae 22 asiantaeth Gofal a Thrwsio yn rhoi gwasanaeth ym mhob rhan o Gymru, gan roi ystod o wasanaethau i helpu pobl hŷn gydag atgyweiriadau ac addasiadau i'w helpu i wneud eu cartrefi'n fwy diogel, cynhesach a mwy diogel. Mae gwella effeithiolrwydd ynni eu cartrefi hefyd yn helpu i ostwng biliau tanwydd.