Sylwadau Care & Repair Cymru ar yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr

21st October 2010

Sylwadau Care & Repair Cymru ar yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr

Yn dilyn y datganiadau ar yr adolygiad gwariant ar 20 Hydref, gwnaed y sylwadau isod gan Chris Jones, rheolwr gyfarwyddwr CRC a Nick Bennett, prif weithredwr grŵp CHC a CRC.

Dywedodd Chris Jones:

"Dyma'r cam cyntaf yn y broses i bennu cyllidebau manwl Cymru, gyda Llywodraeth y Cynulliad yn datblygu drafft gyllideb erbyn 17 Tachwedd. Yn y cyfamser, byddwn yn dadlau'n gryf o blaid gwasanaethau Gofal a Thrwsio gyda swyddogion a Gweinidogion y Llywodraeth. Yn benodol, byddwn yn parhau i bwysleisio gwerth am yr arian ein rhaglen Ymateb Brys wrth osgoi canlyniadau drud megis mynediad i ysbytai, blocio gwelyau a gofal preswyl. 

Ychwanegodd Nick Bennett:

"Mae'n bwysig cofio fod y toriadau ym maes tai cymdeithasol hyd yma yn gysylltiedig â Lloegr yn unig. Rydym yn deall bydd cytundeb bloc Barnett yn dynnach nag ar unrhyw amser ers datganoli, ond yn benderfynol o gydweithio â Llywodraeth y Cynulliad a'n partneriaid i sicrhau byddwn yn cynnal buddsoddiad cyhoeddus a phreifat mewn tai, adfywiad a gofal nid-er-elw. Fel y dywedodd Kevin Morgan, mae'n amser i arloesi yn hytrach na digio, a dyna pam mae'r sector tai cymdeithasol yn edrych ar frys ar y posibilrwydd o sefydlu Ymddiriedolaeth Buddsoddi Tai a chyllid Bondiau Cymreig er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau cyhoeddus prin. Dyna hefyd y rheswm am edrych i gyflwyno Moneyline Cymru (menter datblygu gymunedol) ar adeg pan fydd pobl ar hyd y wlad yn wynebu caledi difrifol. Yn ogystal, byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bydd cyfraniad y sector nid-er-elw wrth gynnal rhaglenni fel Cefnogi Pobl a Gofal a Thrwsio yn parhau i helpu i leihau'r baich ar y gwasanaeth iechyd. Byddwn yn dadlau o blaid y mesurau uchod tan y cyhoeddir drafft gyllid Llywodraeth y Cynulliad ar 17 Tachwedd."