Gofal a Thrwsio yn cynnig datrysiadau amgen i lacio pwysau ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

20th January 2011

Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n heneiddio. Wyddech chi y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn y Deyrnas Unedig yn fwy na threblu o 4.6 miliwn i 15.4 miliwn yn y 60 mlynedd nesaf?

 Mae Gofal a Thrwsio Cymru - mudiad yn y sector gwirfoddol, sy’n darparu gwasanaethau sy’n helpu cadw pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn gysurus a diogel yn eu cartrefi eu hunain - yn credu fod atal yn well na iachâd a bod angen gwneud mwy i ail-lunio gwasanaethau i atal yr angen am wasanaethau drud fel gofal preswyl a derbyniadau i ysbyty. Dylai cael pobl allan o ysbyty ac yn ôl i’w cartref yn llawer cyflymach a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i fwy o bobl hefyd  fod yn flaenoriaeth llawer uwch.

 Amcangyfrifwyd y llynedd fod codymau ymysg pobl hŷn yn costio £4.6 miliwn y dydd i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig. Dywedir fod llawdriniaeth i roi clun newydd yn costio mwy na £25,000 ac amcangyfrifwyd fod blocio gwelyau yng Nghymru yn costio £30 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, gydag un lleoliad mewn gofal preswyl gan y gwasanaethau cymdeithasol yn costio tua £27,000 y flwyddyn.

 Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig  dewisiadau amgen. Mae  grant cyfleusterau i’r anabl yng Nghymru yn £6,500 ar gyfartaledd ac amcangyfrifir fod pob grant a roddwyd i addasu cartref person ei hunan wedi’u cadw allan o ofal preswyl am bedair blynedd. Yng Nghymru, mae gan Gofal a Thrwsio raglen addasu ymateb cyflym, a ariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae addasiadau Ymateb Cyflym yn gweithio drwy gael gweithwyr iechyd neu’r gwasanaethau cymdeithasol i atgyfeirio cleientiaid ar gyfer gwaith am bris cymharol rad sydd un ai’n eu cael allan o ysbyty ac yn ôl adref, neu’n golygu nad yw’n rhaid iddynt fynd i’r ysbyty yn y lle cyntaf. Dim ond £135 yw’r gost gyfartalog fesul swydd ac amcangyfrifir fod pob punt a warir ar addasiadau ymateb cyflym yn arbed tua £7.50 i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

 Cysylltodd un cleient, Mrs. June Smith (77), o Wrecsam â Gofal a Thrwsio gan ei bod yn poeni am ffenestr fae a simnai yn ei thŷ. Cafodd Mrs. Smith help gan Gofal a Thrwsio i wneud cais llwyddiannus am grant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i drwsio’r simnai a gosod ffenestr fae newydd. Fe  wnaethant wedyn helpu Mrs Smith i ddewis contractwr addas a goruchwylio’r holl waith yn yr adeilad ac felly sicrhau ansawdd a gwerth am arian.

 Fe wnaeth Gofal a Thrwsio hefyd gwblhau asesiad Rhaglen Addasu Ymateb Cyflym ar gyfer canllawiau ychwanegol ar gyfer yr ystafell ymolchi a’r grisiau i osgoi codymau a helpu Mrs. Smith i barhau’n annibynnol yn ei chartref ei hun.

 Cynhaliwyd gwiriad budd-daliadau a llenwi ffurflen lwfans gweini hefyd a dyfarnwyd y lwfans cyfradd uwch i Mrs Smith a derbyniodd £402 mewn ôl-daliad. Roedd gan Mrs. Smith wedyn hawl i fwy o fudd-daliadau megis y Budd-dal Treth Cyngor Llawn a Chredyd Pensiwn.

 Gwnaed atgyfeiriad i HEES Cymru am insiwleiddiad atig a gwres canolog a helpodd gweithiwr achos Mrs Smith i wneud cais llwyddiannus am Fathodyn Glas (tocyn caniatâd parcio) hefyd.

 Mae Gofal a Thrwsio wedi ffurfio strwythur grŵp yn ddiweddar gyda Cartrefi Cymunedol, corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru. Nod y cydweithio yw canfod datrysiadau effeithiol ac effeithlon i’r heriau sy’n wynebu Cymru - gwneud mwy gyda llai, helpu pobl hŷn, delio gyda’r argyfwng tai ac ymladd tlodi ac anweithgaredd economaidd.

 Dywedodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Gofal a Thrwsio Cymru: “Does dim amheuaeth o gwbl fod pobl yn byw’n hŷn. Cymaint felly fel y credaf fod heneiddio yn un o’r materion pwysicaf sy’n wynebu polisi cyhoeddus heddiw. Mae gwaith asiantaethau Gofal a Thrwsio ar hyd a lled Cymru yn fwy cost-effeithiol ac yn cadw pobl hŷn yn byw’n annibynnol adref cyhyd ag sydd modd. Dyma’n union yr hyn y dywed mwyafrif y bobl hŷn eu bod eisiau.

 Os credwch y byddech chi, neu gyfaill neu berthynas yn cael budd o wasanaethau Gofal a Thrwsio, ein rhif cyfradd lleol yw 0300 111 3333. Cewch eich cysylltu gyda’r Asiantaeth Gofal a Thrwsio sy’n gweithredu yn eich ardal a byddem yn hapus i’ch helpu. Mae manylion gwasanaethau Gofal a Thrwsio a’ch Asiantaethau Gofal a Thrwsio lleol hefyd ar gael ar wefan Gofal a Thrwsio Cymru.”

 

Cynhelir wythnos Gofal a Thrwsio rhwng 17-21 Ionawr 2011.