Cyllid Gofal A Thrwsio i arbed miliynau i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyfarnwyd cyfanswm o £4.77m o gyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru i Gofal a Thrwsio yng Nghymru ar gyfer 2011/2012. Bydd y cyllid hwn yn galluogi Gofal a Thrwsio i alluogi mwy o bobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol, yn gysurus ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Mae asiantaeth Gofal a Thrwsio ym mhob sir yng Nghymru. Gweithiant yn agos gydag adrannau Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd i helpu rhai o’r bobl hŷn mwyaf bregus yng Nghymru i atgyweirio, gwella ac addasu eu cartrefi a’u helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi, gan eu hatal rhag gorfod mynd i ofal preswyl neu ofal ysbyty neu gyflymu eu rhyddhau o’r ysbyty - gan atal blocio gwelyau sy’n costio miliynau o bunnau i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn.
Wrth siarad am y cyhoeddiad am y cyllid, dywedodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: “Rydym yn falch i weld cydnabyddiaeth a chefnogaeth barhaus y Cynulliad i Gofal a Thrwsio yng Nghymru. Er bod y cyllid 2.9% yn is na’r llynedd, yn yr hinsawdd ariannol bresennol, deallwn ei bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Drwy edrych ar arbedion cost canolog, ar ôl ffurfio strwythur grŵp gyda Cartrefi Cymunedol, dim ond 1.9% o’r toriad hwn gaiff ei deimlo ar flaen cyflenwi gwasanaeth. Mae hynny’n newyddion da i bobl hŷn fregus yn byw yn rhai o’r tai gwaelaf yn ein cymunedau. Rydym wedi amcangyfrif, am bob £1 a gaiff ei wario ar Gofal a Thrwsio, fod arbedion o £7.50 i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gwasanaethau Cymdeithasol, felly mae gwario arian ar ein gwasanaethau yn gwneud synnwyr ariannol.”
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Jocelyn Davies AC, Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio: “Mae Gofal a Thrwsio yn darparu gwasanaeth gwerthfawr sy’n galluogi pobl fregus hŷn ledled Cymru i barhau i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sydd modd. Medrai addasiadau syml i gartref person, megis ychwanegu canllawiau, gael effaith enfawr ar ansawdd eu bywydau.”
Os hoffai unrhyw un siarad gyda Gofal a Thrwsio am y gwasanaethau a ddarparant, y rhif cyfradd lleol o unrhyw le yng Nghymru yw 0300 111 3333.”
--- DIWEDD---
I gael mwy o wybodaeth ar Cartrefi Cymunedol, cysylltwch â:
Edwina O’Hart, Care & Repair Cymru
Ffôn: 02920 557414 neu Symudol: 07791898497
E-bost: edwina-ohart@chcymru.org.uk
Vera Brinkworth, Care & Repair Cymru
Ffôn: 02920 576286 neu Symudol: 07776 307116
E-bost: vera.brinkworth@careandrepair.org.uk
Mae Chris Jones, y Rheolydd Gyfarwyddydd, ar gael ar gyfer cyfweliad.
Mae gennym hefyd nifer o astudiaethau achos sy’n fodlon siarad gyda’r cyfryngau.
Nodyn i’r Golygydd
Care & Repair Cymru yw corff cenedlaethol Gofal a Thrwsio yng Nghymru, a Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn.
Mae 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio ledled Cymru yn helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o annibyniaeth ac urddas. Cyflawnir hyn drwy wneud a hwyluso addasiadau, atgyweiriadau a gwelliannau ar gyfer pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.
- Cafodd dros 32,986 o bobl hŷn eu helpu drwy wasanaethau Gofal a Thrwsio.
- Hwyluswyd mwy na £11 miliwn o waith atgyweirio, gwella ac addasiadau yng nghartrefi pobl hŷn
- Cynyddwyd budd-daliadau pobl hŷn gan £2.2 miliwn
- Dywedodd 4472 (14%) o gleientiaid na fyddent wedi medru aros yn eu cartrefi eu hunain heb gymorth Gofal a Trwsio, a dywedodd 6192 fod eu hannibyniaeth wedi gwella oherwydd Gofal a Thrwsio.
- Darparwyd dros 64% o wasanaethau Gofal a Thrwsio gan gleientiaid dros 75 oed ac roedd 26% o’r holl gleientiaid a helpwyd dros 85 oed.
Drwy gymryd dim ond y 4472 o bobl a helpwyd a ddywedodd na fyddent wedi medru aros yn eu cartrefi eu hunain, ac a fyddai fel arall wedi bod angen gofal mewn cartref preswyl neu cartref nyrsio, byddai’r gost i’r wladwriaeth wedi bod yn 4472 x 52 wythnos x £450 (cost gyfartalog 1 wythnos mewn gofal preswyl) = £104,644,800. O gymharu gyda chyfanswm cost gwasanaethau Gofal a Thrwsio o bob ffynhonnell o gyllid (mwy na £14m), mae hyn yn gyfwerth ag arbediad o £7.50 i’r trethdalwr am bob £1 a fuddsoddwyd mewn Gofal a Thrwsio.

