Hwb hyder £2miliwn i bobl hŷn yng Nghymru

8th April 2011

Cyhoeddodd Jocelyn Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio, heddiw y dyfarnwyd £2.094 miliwn am y flwyddyn ariannol nesaf i gynllun a gaiff ei redeg gan asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru, sy’n gwneud mân waith addasu i gartrefi pobl hŷn i’w hatal rhag gorfod mynd i ysbyty neu i alluogi rhyddhau cleifion yn gyflymach o ysbyty.

Am bob £1 a werir ar y Rhaglen Addasiadau Brys sy’n gosod offer megis rampiau, canllawiau, larymau diogelwch a systemau mynediad drws yn gyflym yng nghartrefi pobl, caiff £7.50 ei arbed o gyllidebau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cymdeithasol - fel canlyniad i hyn, cadwyd y cyllid ar yr un lefel â’r llynedd, er y toriadau i’r gyllideb tai yn gyffredinol.

Croesawodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru, y corff cenedlaethol ar gyfer Gofal a Thrwsio yng Nghymru y cyllid: “Rydym yn falch iawn y cafodd y Rhaglen Addasiadau Brys ei diogelu’n llawn, a’r gydnabyddiaeth fod y rhaglen yn helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae pawb yn gwybod am yr ymadrodd ‘gwell rhwystro’r clwy na’i wella’ ac mae ein gwasanaethau’n atal neu’n gostwng yr angen am wasanaethau drud fel gofal preswyl, yn gostwng y nifer sy’n gorfod mynd i ysbyty oherwydd eu bod wedi llithro neu syrthio ac i gael triniaethau fel clun newydd. Mae ein gwasanaethau hefyd yn cael pobl allan o’r ysbyty ac yn ôl adref ynghynt, gan wneud cyfraniad sylweddol i ostwng blocio gwelyau.

Credwn o ddifrif fod pethau bach yn bwysig a bod atgyweiriadau, gwelliannau ac addasiadau gwell clwt na thwll yn fwy effeithiol o ran cost ac yn cadw pobl hŷn yn byw’n annibynnol yn eu cartrefi cyhyd ag sydd modd.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae’r Rhaglen Addasiadau Brys yn wasanaeth gwerthfawr sy’n galluogi pobl hŷn yng Nghymru i ddychwelyd yn gyflymach i amgylchiadau cyfarwydd ac i barhau i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sydd modd. Gall addasiadau syml i gartref person, megis ychwanegu canllawiau neu wastatau llwybr, gael effaith enfawr ar eu hansawdd bywyd.”

“Heb y cyllid hwn, mae’n anochel y byddai pobl hŷn yn treulio mwy o amser mewn ysbyty neu hyd yn oed yn gorfod mynd i ofal. Nid yn unig y byddai hyn yn gostus iawn i drethdalwyr, yn bwysicach byddai’n cael effaith niweidiol ar eu lles emosiynol.

Ychwanegodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae strategaeth ddeng-mlynedd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol  yn rhoi sylw i bwysigrwydd galluogi pobl i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol cyhyd ag sydd modd. Gall Gofal a Thrwsio wneud newidiadau bach, ond weithiau hanfodol, i gartrefi pobl a thrwy’r buddsoddiad hwn gall mwy o bobl gael eu cefnogi i aros adref, lle byddai’r rhan fwyaf o bobl yn dymuno bod.”

 ---DIWEDD---

 

Os hoffai unrhyw un siarad gyda Gofal a Thrwsio am eu gwasanaethau, y rhif cyfradd lleol o unrhyw le yng Nghymru yw  0300 111 3333.”

I gael mwy o wybodaeth ar Care & Repair Cymru, cysylltwch â:

Edwina O’Hart, Care & Repair Cymru

Ffôn: 02920 557414 neu Symudol: 07791898497

E-bost: edwina-ohart@chcymru.org.uk

Vera Brinkworth, Care & Repair Cymru

Ffôn: 02920 576286 neu Symudol: 07776 307116

E-bost: vera.brinkworth@careandrepair.org.uk

 

Mae Chris Jones, y Rheolydd Gyfarwyddydd, ar gael ar gyfer cyfweliad.

Mae gennym hefyd nifer o astudiaethau achos sy’n fodlon siarad gyda’r cyfryngau.

Nodyn i’r Golygydd

Care & Repair Cymru yw corff cenedlaethol Gofal a Thrwsio yng Nghymru, a Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn.

Mae 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio ledled Cymru yn helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o annibyniaeth ac urddas. Cyflawnir hyn drwy wneud a hwyluso addasiadau, atgyweiriadau a gwelliannau ar gyfer pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.

Yn 2009/10, defnyddiodd Asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru gyllid o Raglen Addasiadau Brys y Cynulliad i gyflawni’r dilynol:

  • Helpodd y Rhaglen 12,912 o bobl gyda gwasanaethau ataliol neu ryddhad o ysbyty
  • Cwblhawyd 15,529 o swyddi ar gost gyfartalog o £116 ac o fewn 8 diwrnod gwaith ar gyfartaledd
  • Wrth gyflawni ei amcanion ataliodd 68% o’r gwaith bobl rhag gorfod mynd i ysbyty a 32% yn gymorth uniongyrchol i ryddhau pobl o ysbyty
  • O’r holl gleientiaid a helpwyd, derbyniodd 1,931 ymweliad gan weithiwr achos/swyddog technegol i fynd i’r afael ag anghenion tai pellach a effeithiodd ar eu hannibyniaeth
  • Roedd dros 38% o gleientiaid y Rhaglen dros 75 mlwydd oed, ac roedd 29% o’r bobl hŷn a fanteisiodd o’r Rhaglen dros 85 oed.

Mae’n amlwg fod y Rhaglen Addasiadau Brys yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles grŵp hollbwysig o bobl hŷn, a fyddai un ai’n cael eu hunain mewn gwely ysbyty oherwydd nad oedd dewis arall neu gael eu gorfodi i aros yn gwella yn yr ysbyty am fwy o amser nag oedd raid.

Ar gyfer gweithwyr iechyd, nid yn unig caiff gwelyau ysbyty eu ‘dadflocio’, gan wella ysbryd a hwyluso trefnu a blaenoriaethu clinigol, ond mae hefyd arwyddion clir o arbedion cost. Os mai dim ond 10% cynnil iawn o gleientiaid o’r Rhaglen Addasiaadau Brys a gaiff eu hystyried, amcangyfrifir fod yr arbediad cost yn £16,201,760. Felly, am bob £1 a fuddsoddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yng ngwasanaethau Rhaglen Addasiadau Brys Gofal a Thrwsio, caiff mwy o £7.50 ei sicrhau fel budd arbediad cost i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.