Gofal a Thrwsio yn croesawu adroddiad ar gost tai gwael
Mae tai gwael yn costio tua £67m y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r adroddiad ‘The Cost of Poor Housing in Wales’, a ariannwyd ar y cyd gan Shelter Cymru a’r Ymddiriedolaeth Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), yn cyfrif y gost i’r GIG o drin damweiniau a salwch a achosir gan broblemau yn y cartref megis stepiau heb fod yn ddiogel, peryglon trydanol, oerfel, lleithder a llwydni.
Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: “Mae’r adroddiad yma’n amserol ac yn ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol fod buddsoddi mewn tai yn arbed arian yn y GIG a gofal cymdeithasol. Mae’r adroddiad yn nodi fod pobl hŷn yn neilltuol o agored i ddamweiniau yn y cartref o godymau, a salwch cysylltiedig â’r oerfel a lleithder. Mae gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn canolbwyntio ar waith ataliol gwell clwt na thwll megis addasiadau, atgyweiriadau, diogelwch ac insiwleiddio cartrefi sy’n cadw pobl hŷn yn byw’n ddiogel adref ac allan o’r ysbyty a gofal preswyl. Cost gyfartalog addasu cartref person yw £6,500, o gymharu â £27,000 y flwyddyn ar gyfer gofal preswyl neu £28,000 ar gyfer llawdriniaeth clun newydd.
Mae’r Rhaglen Addasu Ymateb Cyflym a gyflwynir gan Gofal a Thrwsio ar draws Cymru’n arbed £7.50 i’r GIG a gwasanaethau cymdeithasol am bob £1 a werir drwy gadw pobl hŷn allan o ysbyty a gofal preswyl, a thrwy eu helpu i ddychwelyd adref ynghynt o ysbyty. Mae’r math yma o fuddsoddiad yn gwneud synnwyr gwych, a hefyd yn cadw pobl hŷn ble maent eisiau bod yn y cartrefi a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Mae angen i ni wneud mwy o hyn er budd pobl hŷn a chymunedau, a byddwn yn gweithio'n agos gyda gweinyddiaeth newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau y gwneir y cysylltiadau rhwng tai ansawdd da ac arbedion i iechyd.”
--- DIWEDD---
I gael mwy o wybodaeth ar Cartrefi Cymunedol, cysylltwch â:
Edwina O’Hart, Care & Repair Cymru
Ffôn: 02920 557414 neu Symudol: 07791898497
E-bost: edwina-ohart@chcymru.org.uk
Vera Brinkworth, Care & Repair Cymru
Ffôn: 02920 576286 neu Symudol: 07776 307116
E-bost: vera.brinkworth@careandrepair.org.uk
Nodyn i’r Golygydd
Care & Repair Cymru yw corff cenedlaethol Gofal a Thrwsio yng Nghymru, a Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn.
Mae 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio ledled Cymru yn helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o annibyniaeth ac urddas. Cyflawnir hyn drwy wneud a hwyluso addasiadau, atgyweiriadau a gwelliannau ar gyfer pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.

