Hwbcyllid i helpu pobl hŷn aros yn eu cartrefi
16eg Mehefin 2011
Cyhoeddwyd heddiw gan Huw Lewis AC, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, y bydd y mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru yn derbyn cyllid newydd o £1.5 miliwn ar gyfer Grantiau Byw Annibynnol i helpu pobl hŷn yng Nghymru i aros yn eu cartrefi eu hunain yn ddiogel ac yn iach.
Dosberthir y £1.5 miliwn i 22 asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghymru ac fe’i gwerir ar addasiadau i gartrefi megis lifftiau grisiau a chawodydd cerdded-i-mewn. Nod y grant yw helpu i fynd i’r afael â’r ‘rhestri aros’ am waith addasu er mwyn cynyddu annibyniaeth a helpu i liniaru pwysau ar dderbyniadau brys i ysbyty a helpu pobl i fedru dychwelyd adref yn gyflymach ar ôl bod mewn ysbyty.
Yn ogystal â gwella bywydau pobl hŷn yng Nghymru, bydd y grant yma hefyd yn arbed symiau sylweddol o arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n llawer mwy effeithiol o ran cost i addasu cartref presennol person nag i’r person yna fynd i ofal preswyl, neu hyd yn oed ysbyty. Am bob £1 a werir yn addasu cartref person gydag addasiadau mân iawn, amcangyfrifwyd y caiff £7.50 ei arbed o gyllidebau iechyd a gwasanaethau cost cymdeithasol. Cost gyfartalog Grant Cyfleusterau i’r Anabl yw £8,000, ac amcangyfrifwyd bod hyn yn cadw pob person allan o ofal preswyl am 4 blynedd ar gyfartaledd, gan olygu arbediad o £100,000 fesul achos i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n rhwydd gweld sut y caiff yr arbedion hyn eu cyfrif pan mae cost llawdriniaeth ar gyfer clun newydd tua £30,000, amcangyfrif fod blocio gwelyau yng Nghymru yn costio £30 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru ac un lleoliad gofal preswyl gan wasanaethau cymdeithasol yn costio tua £28,000 y flwyddyn.
Dywedodd Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth enfawr ac mae hynny’n arbennig o wir am wasanaeth Gofal a Thrwsio. Gall mân addasiadau i’w cartrefi helpu pobl i aros adref a byw’n annibynnol gyda’r urddas y meant yn ei haeddu.
“Mae’r gwasanaeth hefyd yn llacio pwysau ar iechyd a gofal preswyl, gan olygu nad yw pobl yn gorfod aros mewn ysbyty neu gartrefi gofal heb fod angen.
“Rwy’n hynod falch bod cyllid Llywodraeth Cymru’n cael ei ddefnyddio i helpu i wneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl.”

Chris Jones,Rheolwr Gyfarwyddwr Care & Repair Cymru, Huw Lewis AC, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a Ms Jill Taylor, cleient Gofal A Thrwsio yn RCT
Wrth siarad cyn ymweliad i’w chartref gan Huw Lewis, y Gweinidog Tai, dywedodd Ms Jill Taylor, cleient i Gofal a Thrwsio Rhondda Cynon Taf(sy’n rhan o Grŵp Tai Cymunedol CynonTaf) hyn am ei phrofiad:
“Rwy’n 62 oed ac mae gen i sglerosis ymledol. Dwyf i ddim mewn cadair olwyn ond rwy’n cael trafferth cerdded ac yn cael blinder sy’n fy llethu. Daeth Gofal a Thrwsio allan i ymweld â fi ac asesu fy sefyllfa ychydig dros flwyddyn yn ôl. Roeddwn yn ei chael yn anodd iawnmynd i fyny a lawr y grisiau a doedd gen i ddim toiled lawr grisiau. Roeddw ni’n teimlo’n wirioneddol hen ac wedi cae lllond bola theimlo na fedrwn i ddim mynd drwy aeaf arall gyda phethau felr oedden nhw. Fe wnes gysylltu â Gofal a Thrwsio oherwydd bod angen gwaith cynnal a chadw ar frys ar y tŷ gan fod glaw yn dod i mewn ond pan ddaethant yma, fe ddywedodd Nerys eu hymwelydd cartref y medrai Gofal a Thrwsio hefyd helpu i adeiladu estyniad lawrgrisiau i mi.
“Fe wnaeth Gofal a Thrwsio bopeth – dod o hyd i bensaer ac yna adeiladwr ac yna oruchwylio a rheoli’r holl broses. Daeth yr adeiladwyr ym mis Medi a gorffen y mis Chwefror dilynol.
“Wna’i ddim cymryd arna y bu popeth yn rhwydd ond rwy’n teimlo’n anhygoel o ffodus oherwydd mae cael yr estyniad newydd wedi trawsnewid fy mywyd yn llwyr. Mae’r frwydr ddyddiol yn rhywbeth o’r gorffennol. Nawr mae gen i egni dros ben ac amser ar gyfer ffrindiau ac rwy’n teimlo yn gymaint mwy diogel a hapus. I bobl fel fi sy’n methu gwneud llawer ac yn mynd yn flinedig iawn, mae meddwl am ddelio gyda llwythi o bobl ac ymdopi gyda straen a gofid gwaith adeiladu yn codi cymaint o ofn â chael y gwaith eihunanwedi’i wneud. Dyna pam fod gwasanaeth Gofal a Thrwsio mor wych. Yn ogystal â goruchwylio’r gwaith adeiladu, maen nhw’n cymryd gofal o’r holl gontractau a’r arian ac os oes problem, fe wnân nhw ddelio gyda hi, gan ddweud wrthyf beth sy’n digwydd yr holl ffordd drwy’r broses.”
Dywedodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: “Mae’n wych clywed mor hapus yw Ms Taylor gyda’n gwasanaeth. Rydyn ni’n helpu degau o filoedd o bobl hŷn yng Nghymru bob blwyddyn i wella eu tai drwy waith trwsio, addasu, effeithiolrwydd ynni a diogelwch. Bydd y Grantiau Byw Annibynnol Newydd yn golygu y medrwn helpu hyd yn oed fwy o bobl. Mae amserau aros ar gyfer addasiadau tai yn breeder mawr ar gyfer pobl hŷn, a byddwn yngweithio’n agos gyda’n cydweithwyr a phartneriaid mewn llywodraeth leol i ddefnyddio’r arian yma yn y ffordd orau y medrwn i ostwng y ramserau aros yma. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’n helpu i wneud hyn.”
Os credwch y gallech chi, ffrind neu berthynas fanteisio o wasanaethau Gofal a Thrwsio, y rhif cyfraddlleol yw 03001113333. Cewch eich cysylltu gyda’r Asiantaeth Gofal a Thrwsio sy’n weithredol yn eich ardal a fydd yn fwy na hapus i helpu. Mae manylion gwasanaethau Gofal a Thrwsio a’ch Asiantaethau Gofal a Thrwsio lleol ar gael ar wefan Care & Repair Cymru.
Os hoffech wybodaeth bellach neu drefnu cyfweliad Cymraeg neu Saesneg, cysylltwch â Vera Brinkworth ar 029 20576286 neu symudol 07776 307116
Bydd Huw Lewis AC, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn ymweld â chartref cleient yn Rhondda Cynon Taf yfory am 2pm. Gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda os hoffech fynychu.
Nodyn i’r Golygydd:
- Care & Repair Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n gweithio i sicrhau fod gan bob person hŷn gartref diogel ac addas ar gyfer eu hanghenion. Mae asiantaeth Gofal a Thrwsio ym mhob sir yng Nghymru.
- Mae’r Grant Byw Annibynnol ar gael ar gyfer pobl hŷn (dros 60 mlwyddoed), sy’n byw yn eu cartref eu hunain neu mewn llety rhent preifat, ar gyfer addasiadau’n cynnwys gwaith rhwng £1,000 a £10,000.
- Caiff y cyllid ar gyfer y grant ei reoli gan Care & Repair Cymru – corf cenedlaethol asiantaethau Gofal a Thrwsio yng Nghymru.
- Mae’r Grant Byw Annibynnol yn anelu i gynnwys hyblygrwydd fydd yn helpu i fynd i’r afael â ‘rhwystrau’ lleol i waith addasu, yn hytrach na dull gweithredu yn union yr un fath ym mhobman.

