20ed Mehefin 2011 - Cynghrair Ailalluogi yn cynnwys ymagwedd newydd ar wasanaethau ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru

20th June 2011

Mae cynghrair o sefydliadau gwirfoddol a phroffesiynol yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol i wella darpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Mae’n dilyn cyhoeddi adroddiad gan yr Asiantaeth Gwelliant Gwasanaethau Cymdeithasol, “Gwell cymorth am lai o arian”, sy’n edrych ar ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Cynghrair Ailalluogi Cymru – a ffurfiwyd gan y WRVS, y Coleg Therapyddion Galwedigaethol, Age Cymru, y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi a Care & Repair Cymru – wedi croesawu adroddiad yr Asiantaeth Gwelliant Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cefnogi ei gasgliadau ac yn galw am well mynediad i wasanaethau ailalluogi effeithiol ar draws Cymru.

Yn neilltuol, mae’r gynghrair yn cefnogi dadl yr Asiantaeth am gyflwyno gwasanaethau ataliol cryfach er mwyn gostwng yr angen am ofal cymdeithasol tymor hwy a phobl yn gorfod mynd i ysbyty heb fod angen.  Geilw’r gynghrair hefyd ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i wneud y symud o ysbyty i’r cartref yn llai o straen i bobl hŷn drwy ddarparu ymyriadau amserol wedi’u targedu fel y medrant barhau i fyw bywydau hapus, annibynnol.

Dywedodd Sally Rivers, Pennaeth Gwasanaethau Cymru i’r WRVS: “Mae Cynghrair Ailalluogi Cymru yn ymgyrchu dros ddatblygu gwasanaethau ailalluogi ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru, gan adeiladu ar arfer da presennol a sicrhau fod yr holl wasanaethau sy’n cymryd rhan yn cydweithio’n llyfn i helpu pobl i fyw mor annibynnol ag sydd modd gartref.

“Medrir cyflawni hyn drwy lunio fframwaith ansawdd ar alluogi i Gymru, a fyddai’n ganllaw defnyddiol i awdurdodau lleol. Mae’n wirioneddol bwysig bod hefyd ffocws ar helpu pobl i integreiddio’n ôl i’w cymuned ar ôl arhosiad yn yr ysbyty, i wneud yn sicr nad yw pobl yn teimlo’n ynysig neu’n unig.”

Dywedodd Ruth Crowder, Swyddog Polisi Cymru i’r Coleg Therapyddion Galwedigaethol: “Dangoswyd fod gwasanaethau ailalluogi yn effeithiol wrth ostwng costau gofal a galluogi pobl i fyw gartref yn hirach. Bydd yn hollbwysig bod llywodraeth leol a hefyd Lywodraeth Cymru yn sicrhau gwasanaethau integredig, effeithiol ac ymatebol ar yr amser cywir i sicrhau y gall pobl aros yn eu cartrefi eu hunain ac integreiddio o fewn eu cymuned leol cyhyd ag sydd modd.”

Diwedd

NODIADAU

  • Mae Cynghrair Ailalluogi Cymru yn cynnwys y WRVS, y Coleg Therapyddion Galwedigaethol, Age Cymru, y Gymdeithas Strôc yng Nghymru, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi a Care & Repair Cymru. Mae’n ymgyrchu i hyrwyddo manteision gwasanaethau cyson, effeithiol ac integredig sy’n galluogi pobl i gynyddu eu gallu i fyw mor annibynnol ag sydd modd.
  • Nod ailalluogi yw helpu pobl i ymdopi gyda’u salwch neu gyflwr drwy ddysgu neu ailddysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer byw bob dydd (Rhaglen Cyflenwi Effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal, Ffrwd Gwaith Ailalluogi Gofal Cartref 2007).
  • Dangoswyd bod ailalluogi yn sicrhau arbedion cost. Canfu astudiaeth yn 2007 ar gyfer y Rhaglen Cyflenwi Effeithiolrwydd Gwasanaethau Gofal nad oedd hyd at 68% o bobl angen pecyn gofal cartref ar ôl ailalluogi a bod hyd at 48% yn parhau i beidio bod angen gofal cartref ddwy flynedd yn ddiweddarach.

 (Care Services Efficiency Delivery Programme, Homecare Re-ablement Workstream (2007) [Homecare reablement] retrospective longitudinal study November 2007. Llundain: Care Services Efficiency Delivery. Available here:

Mae adroddiad Arolygiaeth Gwelliant Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael ar-lein gam glicio yma .

  • I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:
    • Sally Rivers, Pennaeth Gwasanaeth, WRVS Cymru: 07714 898571
    • Ruth Crowder, Swyddog Polisi Cymru, Coleg Therapyddion Galwedigaethol
    • Philippa Ford, Swyddog Polisi Cymru, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi: (029) 2038 2429
    • Lowri Griffiths, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Allanol, Y Gymdeithas Strôc yng Nghymru: (029) 2052 4420
    • Vera Brinkworth, Pennaeth Digwyddiadau a Hyfforddiant, Care & Repair Cymru: (029) 2057 6286
    • Rhea Stevens, Cydlynydd Ymgyrchoedd, Age Cymru: (029) 2043 1571