20ed Mehefin 2011 - Wythnos Ymwybyddiaeth Codymau 20 – 24 Mehefin 2011
Mae heddiw’n nodi dechrau’r wythnos Ymwybyddiaeth Codymau ac er ein bod i gyd yn gyfarwydd gyda’r dywediad ‘ gwell rhwystro’r clyw na’i wella’, bydd tua 30% o bobl dros 65 oed a 50% o bobl dros 80 oed yn cael codwm bob blwyddyn.*
Mae colli annibyniaeth a hyder, gallu i symud ac mewn rhai achosion farwolaeth ymhlith rhai o’r effeithiau dinistriol i bobl hŷn. Cred Care & Repair Cymru y dylid rhoi llawer mwy o flaenoriaeth i atal person hŷn rhag syrthio yn y lle cyntaf a chael pobl yn ôl i’w cartrefi eu hunain yn llawer cyflymach na dim ond diogelu cyllidebau i dalu am ofal preswyl neu arhosiad ysbyty drud, neu driniaeth ddrud megis llawdriniaeth clun newydd.
Cafodd Mrs Clarke (82 oed) o Drelái yng Nghaerdydd ei chyfeirio at Gofal a Thrwsio gan ei nith y llynedd gan ei bod ychydig yn simsan wrth symud o amgylch y cartref ac wedi cael codwm yn ddiweddar.
Yn dilyn ymweliad i’w chartref, helpodd Gofal a Thrwsio Mrs Clarke i wneud cais am grant Diogelwch Cartref a dalodd am:
- Canllawiau tu allan i’r tŷ i’w helpu i fynd i fyny a lawr y stepiau ar ei drws blaen yn ddiogel
- 2 ganllaw cydio yn ei hystafell ymolchi i roi cefnogaeth ychwanegol
- Ail ganllaw i fyny’r grisiau i roi cefnogaeth ychwanegol
Roedd Mrs Clarke newydd brynu set deledu ar gyfer ei hystafell wely, ond roedd y gwifrau ar gyfer hyn yn llusgo ar lawr yr ystafell felly trefnodd Gofal a Thrwsio i gynllun Tasgmon Help the Aged dacio’r gwifrau i lawr i ostwng y risg o godwm.
Mae Mrs Clarke yn awr yn teimlo’n fwy hyderus yn dilyn y gwaith addasu bach i’w chartref. Nid oedd Mrs Clarke wedi meddwl am lawer o’r materion diogelwch a drafodwyd pan ymwelodd Gofal a Thrwsio.
“Roedd Gofal a Thrwsio Caerdydd yno pan oeddwn angen help a chyngor i barhau’n annibynnol yn fy nghartref fy hun. Fe wnaeth y gweithiwr achos apwyntiad a rhoddodd amser a thrafferth i asesu fy anghenion a chael atebion ymarferol fel y medrwn barhau’n annibynnol.
“Roedd y crefftwyr y gwnaethant eu hanfon yn barod iawn i gynorthwyo ac yn glên iawn a gwnaethant y gwaith heb fawr o ffws a hyd yn oed lanhau wedyn! Diwedd hapus i’r stori. Mae holl waith Gofal a Thrwsio yn golygu mod i’n fwy hyderus ac yn teimlo’n llai tebygol o syrthio.”
Am bob £1 y mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn eu gwario ar addasu cartref person hŷn, caiff £7.50 ei arbed o gyllidebau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cymdeithasol. Pan ystyrir y bydd nifer y bobl dros 65 oed yng Nghymru yn cynyddu gan tua 5% yn y 10 mlynedd nesaf (cynnydd o 130,000), a bydd y nifer dros 85 oed yn cynyddu gan 30,000 - medrai buddsoddi yn y mesurau ataliol bach hyn arbed miliynau o bunnau bob blwyddyn i gyllidebau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac yn bwysicach sicrhau fod pobl hŷn yn parhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi am fwy o amser.
Dywedodd Chris Jones, Cyfarwyddydd Rheoli Care & Repair Cymru: “Mae staff Gofal a Thrwsio yn y 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghymru’n cydweithio’n agos gyda chydweithwyr mewn Iechyd a Llywodraeth Leol i ddynodi pobl hŷn a bregus sydd angen ein help, a threfnu gwaith ataliol megis canllawiau, lifftiau grisiau, trwsio llwybrau a lloriau, gwaith trwsio trydanol, cawodydd mynediad gwastad, systemau mynediad drws a blychau diogel ar gyfer allweddi. Mae’r gwaith yma’n golygu y gall pobl hŷn barhau i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, lle mae’n well ganddynt fod. Mae hyn hefyd yn atal pobl rhag gorfod mynd i ysbyty a gofal preswyl hirdymor sydd ill dau yn llawer iawn drutach. Fy neges yw drwy wario mwy o’r pwrs cyhoeddus ar ataliaeth, y medrir cwtogi’n sylweddol iawn ar y bil am driniaeth ysbyty a gofal preswyl.
Mae gan Care & Repair Cymru ddalen ffeithiau ar Cyngor Da i Atal Baglu, Llithro a Syrthiosy’n rhoi cyngor syml, synnwyr cyffredin. Mae ar gael o www.careandrepair.org.uk
Os credwch y byddech chi, cyfaill neu berthynas yn manteisio o wasanaethau Gofal a Thrwsio, y rhif cyfradd lleol yw 0300 111 3333. Cewch eich cysylltu gyda’r Asiantaeth Gofal a Thrwsio sy’n gweithredu yn eich ardal chi a fydd yn fwy na hapus i helpu. Mae manylion gwasanaethau Gofal a Thrwsio ac Asiantaethau Gofal a Thrwsio lleol hefyd ar gael ar wefan Care & Repair Cymru.
Os ydych angen mwy o wybodaeth neu os hoffech drefnu cyfweliad gyda Chris Jones, ein Cyfarwyddydd Rheoli, neu Weithiwr Achos Gofal a Thrwsio cysylltwch os gwelwch yn dda â Vera Brinkworth ar Ffôn: 029 20 576286 neu symudol: 07776 307116
Nodiadau i’r Golygydd
- *Age UK
- Care & Repair Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n gweithio i sicrhau fod gan bob person hŷn gartref diogel sy’n addas ar gyfer eu hanghenion. Mae asiantaeth Gofal a Thrwsio ym mhob sir yng Nghymru.
- Cafodd 5,471 o’r swyddi a wnaeth asiantaethau Gofal a Thrwsio y llynedd eu categoreiddio fel gwaith atal codymau – ond nid yw hyn yn golygu mai dim y swyddi hynny a gyfrannodd at atal codymau.
- Roedd 5,648 o swyddi eraill o fewn y Rhaglen Addasiadau Brys (e.e. gosod canllawiau) a ddosbarthwyd fel gwaith ataliol.
- Mae nifer o asiantaethau Gofal a Thrwsio wedi datblygu prosiectau arloesol penodol yn gysylltiedig ag atal codymau yn cynnwys y dilynol:
Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr:
Mae gan yr asiantaeth Therapydd Galwedigaethol penodol yn gweithio o fewn yr asiantaeth gyda chylch gorchwyl penodol i drin atal codymau. Ariennir y swydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ariannu Cydlynydd Codymau yn seiliedig yn yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio.
Gofal a Thrwsio yng Nghaerdydd:
Mae gan Gofal a Thrwsio Caerdydd Weithiwr Achos yn gweithio’n arbennig ar yr agenda codymau, gan dargedu’n neilltuol atal codymau, lleihau peryglon a risgiau o fewn amgylchedd y cartref.
Gofal a Thrwsio Ceredigion:
Mae Gofal a Thrwsio Ceredigion yn ymwneud â datblygu llwybr codymau, gan gydweithio gyda’r gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys dulliau i olrhain nifer codymau a datblygu llwybr atgyfeirio.
Gofal a Thrwsio Gwynedd:
Mae gan Gwasanaeth Diogelwch y Cartref Gwynedd dri swyddog penodol sy’n cynnal asesiadau risg o fewn y cartref, gyda 60% ohonynt yn atgyfeiriadau atal codymau gan y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Gofal a Thrwsio Sir Fynwy:
Mae’r prosiect ‘Iach Adref’ yn wasanaeth ymweld cartref penodol ar gyfer pobl dros 75 oed i roi cyngor ar iechyd a diogelwch yn y cartref. Cynhelir asesiad codymau.
Gofal a Thrwsio Bro Morgannwg:
Mae gan yr asiantaeth weithiwr achos penodol ar gyfer atal codymau.

