13eg Gorffennaf 2011 - Care & Repair Cymru Yn Gweithio Gyda NPOWER Iechyd Trwy Gynhesrwydd

13th July 2011

Gorffennaf 2011

Care & Repair Cymru Yn Gweithio Gyda NPOWER Iechyd Trwy Gynhesrwydd  

Cyhoeddwyd heddiw y bydd cynllun npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd yn cydweithio gyda Care & Repair Cymru i alluogi cleientiaid bregus asiantaethau Gofal a Thrwsio ym mhob rhan o Gymru i gael mynediad i gefnogaeth ariannol tuag at fesurau gwresogi ac insiwleiddio.

Mae’r cynllun peilot, fydd yn rhedeg hyd ddiwedd 2011, yn galluogi Asiantaethau Gofal a thrwsio yng Nghymru, i wneud cais am gyllid o gronfa argyfwng unigryw npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd i helpu preswylwyr y caiff eu hiechyd ei waethygu gan amodau byw oer a llaith ac nad oes ganddynt wresogi ac insiwleiddio digonol.

Drwy gydweithio, gobeithiant helpu preswylwyr nad ydynt yn gymwys am grantiau statudol ond na all dalu’n llawn am fesurau gwresogi eu hunain. Caiff pob cais ei adolygu ar sail unigol, a defnyddir y gronfa argyfwng ynghyd â ffynonellau eraill o gyllid tuag at osod gwaith gwresogi ac insiwleiddio.

Mae’r mesurau y gall Iechyd Trwy Gynhesrwydd gynorthwyo gyda hwy yn cynnwys insiwleiddio waliau ceudod ac atigau, trwsio neu osod tannau nwy, gwresogyddion storio, gwres canolog a boeleri newydd, yn ogystal â gwaith i atal drafftiau ar ddrysau a ffenestri presennol.

Mae’r cynllun Iechyd Trwy Gynhesrwydd eisoes yn gweithredu ym Mro Morgannwg a Wrecsam a Sir y Fflint; fodd bynnag, drwy weithio gyda Care & Repair Cymru gall y cynllun ymestyn tu allan i’r ardaloedd hyn a helpu i wella lefelau cynhesrwydd a chysur i breswylwyr cymwys ar hyd a lled Cymru. 

Dywedodd Elaine Midwinter, rheolwr cynllun Iechyd Trwy Gynhesrwydd: “Mae Iechyd Trwy Gynhesrwydd a Care & Repair Cymru yn ddau sefydliad sy’n rhoi help i bobl fregus, felly rydym yn hynod falch i fod yn cydweithio. Gobeithiwn gynyddu nifer, a chyrraedd daearyddol y bobl yr ydym yn eu helpu yng Nghymru.”

Ychwanegodd Chris Jones, rheolwr gyfarwyddwr Care & Repair Cymru: “Mae npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd wedi ennill ei blwyf fel cynllun llwyddiannus yn yr ardaloedd o Gymru y mae’n gweithredu ynddynt ar hyn o bryd, ac edrychwn ymlaen at gydweithio. Gobeithiwn ehangu’r adnoddau sydd ar gael i gleientiaid Asiantaethau Gofal a Thrwsio ac rydym yn hyderus y caiff y cynllun peilot dderbyniad cadarnhaol ar draws Cymru yn ystod y chwe mis nesaf.”

Sefydlwyd npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd yn 2000 mewn partneriaeth gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gweithredu Ynni Cenedlaethol (NEA) ac mae’n gweithredu mewn 15 ardal yng Nghymru a Lloegr. Ers hynny, cafodd mwy na 68,000 o bobl eu hatgyfeirio at y cynllun, sydd wedi ysgogi bron £51 miliwn i sicrhau mesurau gwresogi ac insiwleiddio ar gyfer preswylwyr bregus sydd â salwch yn gysylltiedig gydag oerfel a lleithder. Cafodd dros £6 miliwn ei gyrchu o gronfa argyfwng unigryw npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.healththroughwarmth.com neu www.careandrepair.org.uk

-        DIWEDD -

Nodiadau i’r Golygydd:
*Mae cynllun npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd yn gweithredu yn yr ardaloedd dilynol:

  • Birmingham
  • Bro Morgannwg
  • Caerlŷr
  • Dudley
  • East Riding
  • Glannau Merswy
  • Leeds
  • Newark & Sherwood
  • Newcastle / Gogledd Tyneside
  • Swindon
  • Swydd Stafford
  • Telford a Wrekin
  • Walsall
  • Wolverhampton
  • Wrecsam a Sir y Fflint

 

Cafodd cynllun Iechyd Trwy Gynhesrwydd ail-achrediad gyda dyfarniad Big Tick gan Busnes yn y Gymuned yng nghategori Adeiladu Cymunedau Cryfach yn eu Gwobrau Blynyddol am Ragoriaeth yn 2011. Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad parhaus y cwmni i arferion busnes cyfrifol a’r effaith gadarnhaol y mae’r cynllun Iechyd Trwy Gynhesrwydd yn parhau i’w gael ar fywydau pobl fregus gyda salwch sy’n gysylltiedig ag oerfel a lleithder sydd angen cymorth gyda gosod a thalu am fesurau gwresogi ac insiwleiddio.

Mae cynllun npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd yn gweithredu mewn 15 ardal yng Nghymru a Lloegr, a restrir uchod, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol ac awdurdodau lleol o fewn yr ardaloedd. Gall preswylwyr bregus yn yr ardaloedd Iechyd Trwy Gymorth gael mynediad i help drwy’r cynllun, p’un ai ydynt yn gwsmer npower ai peidio, cyn belled â bod ganddynt salwch sy’n gysylltiedig â’r oerfel neu leithder ac y cânt eu hatgyfeirio gan weithiwr cymunedol sydd wedi mynychu sesiwn ymwybyddiaeth Iechyd Trwy Gynhesrwydd. I gael manylion pellach am yr ardaloedd y mae’r cynllun yn gweithredu ynddynt neu fwy o wybodeath am Iechyd Trwy Gynhesrwydd, ewch i www.healththroughwarmth.com neu anfon e-bost at healththroughwarmth@npower.com. Ymunwch â thrafodaeth y diwydiant ynni ar wefan drafod ryngweithiol npower the brighter energy debate lle medrwch bostio eich cwestiynau, barn a sylwadau.

Care & Repair Cymru yw’r corff cenedlaethol ar gyfer Gofal a Thrwsio yng Nghymru, a Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn.

Mae’r 22 asiantaeth Gofal a Thrwsio ledled Cymru yn helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o annibyniaeth ac urddas. Cyflawnir hyn drwy gynnal a hwyluso gwaith addasu, trwsio a gwelliannau ar gyfer pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.

Cyhoeddwyd ar ran npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd gan y McCann Erickson PR, Communications House, Highlands Road, Shirley, Solihull, B90 4WE

 I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Rebecca Wallace ar 0121 713 3787 neu  Kate Dawson ar 0121 713 3878. E-bost: rebecca.wallace@europe.mccann.com neu kate.dawson@europe.mccann.com

I gael mwy o wybodaeth ar npower, cysylltwch â Nick McHugh ar 01905 340 854 neu e-bost Nicholas.mchugh@npower.com

I gael mwy o wybodaeth ar Gofal a Thrwsio yng Nghymru, cysylltwch Vera Brinkworth ar 029 20576286 neu e-bost vera.brinkworth@careandrepair.org.uk

.