19eg Hydref 2011 - Gwybodaeth Hygyrch yr Allwedd i Fyw Annibynnol

19th October 2011

Mae pawb ohonom eisiau parhau i fyw’n annibynnol yn ein cartrefi ein hunain wrth i ni heneiddio, eto gall canfod yr help, cefnogaeth a chyngor cywir ar gyfer addasu ein cartrefi fod yn ddryslyd ac yn anodd.

 Dyna pam fod Care & Repair Cymru, ynghyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age Cymru a’r Coleg Therapyddion Galwedigaethol yn lansio ymgyrch heddiw i sicrhau fod gan bobl hŷn, eu teuluoedd a’u cynrychiolwyr wybodaeth glir am y cymorth sydd ar gael ar gyfer addasu ac atgyweirio cartrefi.

Cliciwch yma i weld y gwahaniaeth a wnaeth addasiadau i’w cartref i Mr a Mrs King 

Fel rhan o’r Ymgyrch dosberthir 40,000 o daflenni i feddygfeydd, llyfrgelloedd, asiantaethau Gofal a Thrwsio, cleientiaid Age Cymru a phartneriaid eraill ar draws Cymru. Mae’r taflenni’n cynnwys gwybodaeth ar ba gymorth sydd ar gael wrth ystyried addasu ac atgyweirio cartrefi, yn cynnwys sefydliadau a all helpu, y mathau o addasiadau sydd ar gael, cyngor ar yr hyn sy’n gweddu orau i anghenion cleientiaid a gwybodaeth ar y grantiau sydd ar gael i dalu am gost y gwaith addasu.

 Mae addasiadau yn sicrhau y gall pobl hŷn barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hwy, a hefyd yn lliniaru pwysau a straen ariannol ar gyllidebau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cymdeithasol. Am bob £1 a werir ar addasu cartref person, amcangyfrifir y caiff £7.50 ei arbed o gyllidebau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n rhwydd gweld sut y caiff yr arbedion hyn eu cyfrif pan fo llawdriniaeth am glun newydd yn costio tua £25,000, ac amcangyfrifwyd bod addasiadau tai yn gostwng neu ddileu costau cartref gofal, gan arbed rhwng £1,200 a £29,000 y flwyddyn i bob aelwyd.

 Dywedodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: “Mae gwybodaeth yn rym, ond yn oes technoleg a’r draffordd gwybodaeth, cawsom ein synnu pa mor galed oedd hi i ganfod gwybodaeth sylfaenol ar y math o addasiadau a’r help sydd ar gael i dalu amdanynt. Mae’r ymgyrch yma ynglŷn â llenwi’r bwlch yma ar gyfer pobl hŷn a’i gwneud yn glir pa help  sydd ar gael, o ble a sut i fynd o’i chwmpas. Addasu eu cartref, yn hytrach na symud i gartref yw’r hyn fyddai’n well gan bobl hŷn, a bydd hyn yn gam pwysig wrth roi’r hyn y mae pobl hŷn ei eisiau.”

 Ychwanegodd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Gall cymhorthion ac addasiadau wneud gwahaniaeth enfawr a helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain drwy ostwng risg codymau ac anafiadau eraill, a all gael effaith hirdymor ar iechyd a lles.

 “Gall canfod gwybodaeth am addasiadau cartref fod yn ddryslyd ac anodd. Rwy’n llwyr gefnogi’r ymgyrch i sicrhau y gall pobl hŷn gael mynediad cyflym i’r holl wybodaeth y manet ei hangen am hyn, yn ogystal â’r cymorth ariannol a allai fod ar gael iddynt.”

 

-DIWEDD-

 

Mae’r daflen am ddim ar gael i’w lawrlwytho  http://www.careandrepair.org.uk/care-and-repair-cymru-publications/. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar ba fathau o waith addasu, cymorth a grantiau sydd ar gael ar gyfer addasu cartrefi.