24ain Hydref 2011 - Cydweithio dros gymunedau lleol - Agor swyddfa gyntaf y grŵp yn y Gogledd

24th October 2011

Cydweithio dros gymunedau lleol - Agor swyddfa gyntaf y grŵp yn y Gogledd

Mae Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi agor ei swyddfa grŵp gyntaf yn y Gogledd. Bydd y presenoldeb ym Mharc Menai, Bangor, yn sicrhau fod y tri sefydliad sy'n rhan o'r strwythur grŵp yn hyrwyddo gweithgareddau tai, gofal ac adfywio cynaliadwy ac integredig fydd yn eu galluogi i gyflawni eu hamcanion yn fwy effeithiol, gan ddod â'r potensial ar gyfer ail-fuddsoddi arbedion effeithiolrwydd i wasanaethau o fudd i bobl y Gogledd.

Ffurfiwyd grŵp CHC ym mis Gorffennaf 2010 ac mae'n cynnwys y rhiant-gorff Cartrefi Cymunedol Cymru, y sefydliad aelodaeth i gymdeithasau tai Cymru, ac is-gyrff Care & Repair Cymru, y corff cenedlaethol i helpu pobl hŷn i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a CREW - Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru.

Wrth siarad yn agoriad y swyddfa, dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredydd y Grŵp: "Mae heriau enfawr o'n blaenau yn cynnwys cymdeithas sy'n heneiddio a thoriadau i'r gyllideb Tai ac Adfywio. Bydd y cydweithio a'r presenoldeb yn y Gogledd yn gweld ein tri sefydliad yn rhannu gwasanaethau canolog fel Cyllid, Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu ac yn ailfuddsoddi arbedion effeithiolrwydd i sicrhau canlyniadau.

“Yn ogystal ag arbedion effeithiolrwydd, bydd y strwythur grŵp hefyd yn cryfhau ein llais ar lefel genedlaethol a lleol gyda photensial gwirioneddol i'r grŵp i gyflawni dros y blynyddoedd nesaf yn nhermau gweithgareddau lobio ar y cyd, gan arddangos i'r Llywodraeth fod gennym ymrwymiad gwirioneddol i ddarparu gwell gwerth am arian ar gyfer gwariant cyhoeddus."

Felly pa wasanaethau y mae'r grŵp yn eu cyflwyno ar draws y Gogledd?

Mae gan y tri sefydliad rôl sylweddol ar draws y Gogledd - o ran y gwasanaethau a ddarparant a hefyd yr effaith lluosydd economaidd yn yr economi lleol fel canlyniad i'w gweithgareddau.

Gofal

Mae chwe asiantaeth Gofal a Thrwsio yn gweithredu yn y Gogledd yn cynnwys Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn. Yn 2010/11 helpu cyfanswm o 10,500 o bobl hŷn i barhau i fyw'n annibynnol a diogel yn eu cartrefi eu hunain ar gost gyfartalog o £152.80 y cleient.

Derbyniodd y chwe asiantaeth gyfanswm o £1,604,838 mewn grantiau gan Lywodraeth Cymru - ond am bob £1 a wariwyd yn darparu gwasanaethau Gofal a Thrwsio, cafodd £7.50 ei arbed o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - cyfanswm o £12,036,285 yn y Gogledd yn unig.

Dywedodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: "Os yw addasu cartref person hŷn yn golygu y gallant fyw yno'n ddiogel ac annibynnol am fwy o amser ac yn arbed arian a gostwng pwysau ar gyllidebau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cymdeithasol - yna mae angen rhoi mwy o flaenoriaeth i adeiladu partneriaethau cryfach rhwng iechyd a thai. Bydd presenoldeb y grŵp yn y Gogledd yn golygu y gall pobl hŷn sydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety sy'n anaddas ar gyfer eu hanghenion gael sicrwydd y bydd y bartneriaeth yma yn helpu i gyflenwi eu neges, a helpu i gryfhau gwasanaethau tai i bob person hŷn ar draws y rhanbarth."

Tai

Mae Cymdeithasau Tai yn gweithredu ym mhob rhan o Gymru ac amcangyfrifir iddynt wario £802 miliwn yn economi Cymru yn 2010/2011 gyda bron 80% o'r gwariant hwnnw wedi ei gadw yng Nghymru. Yn ogystal â buddsoddi mewn tai fforddiadwy safon uchel, maent yn darparu llawer mwy o wasanaethau i bobl leol yn cynnwys adeiladu cymunedau cynaliadwy, darparu tai gofal ychwanegol, a thai gwarchod a gweithIo i ddileu tlodi tanwydd, allgauedd ariannol ac allgauedd digidol ymysg rhai o'r cymunedau mwyaf amddifadus yn y Gogledd.

Y llynedd roedd cymdeithasau tai sy'n gweithredu ar draws y Gogledd yn cyflogi 1,200 o bobl yn llawn-amser ac yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan yr Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar ran grŵp CHC, am bob un swydd a grëwyd yn y sector tai, caiff 2 swydd arall eu cefnogi yn y gymuned yn ehangach.

Mae Cymdeithasau Tai yn y Gogledd yn rhan o ddau gonsortiwm datblygu - Syniad ac Undod. Sefydlwyd consortia i sicrhau arbedion maint ac yn ystod 2010/11, roedd y ddau gonsortiwm yn gyfrifol am adeiladu 550 o gartrefi fforddiadwy yn y Gogledd.

Yn ogystal ag adeiladu cartrefi newydd, mae Cymdeithasau Tai hefyd yn buddsoddi mewn cartrefi presennol. Cafodd Cartrefi Conwy a Chartrefi Cymunedol Gwynedd eu sefydlu yn dilyn trosglwyddo stoc, pan bleidleisiodd tenantiaid i symud perchnogaeth eu cartrefi o'r cynghorau lleol i'r sefydliadau newydd dim-er-elw.

Cartrefi Conwy oedd y trosglwyddiad stoc cyntaf yn y Gogledd yn 2008 ac erbyn 2012 byddant wedi gwario £58m yn codi cartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae gwelliannau i gartrefi yn cynnwys gosod drysau, ffenestri, ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd a gwneud cartrefi'n fwy effeithiol o ran ynni. Sefydlwyd Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn 2010 ac erbyn 2015 bydd wedi buddsoddi £136m yn codi eu cartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae'r ddau sefydliad wedi creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer pobl leol.

Adfywio

Bydd 20 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi erbyn 2010 a bydd cyfran anghymesur ohonynt yn byw yng Nghymru. Dywedodd Dave Adamson, Prif Weithredydd CREW: "Bydd y swyddfa yn y Gogledd yn rhoi gwell cyfle i ni hyrwyddo adfywio cynaliadwy ac integredig ar draws ffiniau iechyd a gofal, tai, addysg a thrafnidiaeth. Mae'r Gogledd yn wynebu llawer o'r un heriau adfywio â gweddill Cymru ac mae yma enghreifftiau o gymunedau trefol a gwledig lle mae angen gweithredu gyda ffocws i ddileu tlodi ac amddifadedd.

"Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r rhanbarth gydag ardaloedd adfywio wedi'u dynodi ar Arfordir y Gogledd sy'n ymestyn o Brestatyn i Fochdre ac ardal Môn a Menai yn y Gogledd Orllewin. Mae heriau economaidd a chymdeithasol sylweddol yn y ddwy ardal sydd angen amrywiaeth o ymyriadau i hyrwyddo adfywio cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Mae ardaloedd mwy gwledig y Gogledd hefyd yn cyflwyno heriau sylweddol yn arbennig yng nghyd-destun anawsterau sy'n wynebu trefi bach yng Nghymru. Drwy gael swyddfa yn y Gogledd bydd y grŵp yn medru mynd i'r afael â'r heriau hyn yn fwy effeithiol a sicrhau y gellir rhannu'r arfer gorau sydd i'w weld yn y Gogledd gyda chynulleidfa ehangach. Mae partneriaeth yn hollbwysig i gyflenwi llwyddiannus a bydd ein presenoldeb yma'n cynorthwyo CREW i ddatblygu rhwydweithiau mwy effeithiol yn y Gogledd."

Siaradodd Mary Burrows, Prif Weithredydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y digwyddiad hefyd a dywedodd fod swyddfa'r grŵp yn cael ei hagor ar adeg amserol iawn. Ychwanegodd: "Ein nod ar y cyd yw darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau a thrwy adeiladu'r partneriaethau hyn rydym yn gwella cyfleoedd bywyd pobl sy'n byw yn y Gogledd. Nid darpariaeth iechyd yw'r ateb i bopeth ac mae angen i ni adeiladu cymuned gydlynol i gyflawni'r agenda yr ydym i gyd yn gweithio arni - creu gwell cyfleoedd bywyd i bobl leol."

Cefnogir Nick Bennett gan Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru; Dave Adamson, Prif Weithredydd Canolfan Rhagoriaeth Adfywio Cymru; Phillipa Knowles, Cyfarwyddydd Gwasanaethau Canolog a Sioned Hughes, Cyfarwyddydd Polisi a Menter Gymdeithasol.

Disgwylir y bydd swyddfa De Cymru'r grŵp yn agor ym Mai 2012.

DIWEDD