3 Tachwedd 2011 - Grŵp CHC yn galw ar y Gweinidog Iechyd i ddefnyddio'r Sector Tai Cymdeithasol i sicrhau gwell canlyniadau

3rd November 2011

2 Tachwedd 2011 

Gallai addasiadau tai eu hunain arbed £36 miliwn* o gyllideb y GIG a Gwasanaethau Cymdeithasol eleni

Mae Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru i helpu sicrhau gwell canlyniadau iechyd fel yr amlinellir yn 'Law yn Llaw am Iechyd' Y weledigaeth bum mlynedd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Mae canfyddiadau adroddiad diweddar gan Kafka Brigade UK, a gomisiynwyd gan grŵp CHC, yn awgrymu fod nifer o gyfleoedd i'r sector tai cymdeithasol gefnogi canlyniadau iechyd - yn arbennig wrth ateb anghenion cymdeithas heneiddiol Cymru.

Mae grŵp CHC yn awr yn galw ar y Gweinidog Iechyd i roi signal strategol bod cydweithio rhwng iechyd a thai yn rhan ddisgwyliedig o'r agenda diwygio'r GIG.

Bydd Nick Bennett, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru yn amlinellu'r canfyddiadau yng nghynhadledd ' Cartrefi Iach - Bywydau Iach' yfory, a bydd Lesley Griffiths AC a'r Gweinidog Tai Huw Lewis, AC ymhlithh y gynulleidfa yno.

Dywedodd Nick: "Mae seiliau cadarn i'r syniad fod tai ansawdd uchel yn hollbwysig i fyw'n iach. Diben yr ymchwil oedd mynd gam ymhellach i ddynodi gweithgaredd cyfredol lle mae trawsgroesi rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a'r sector tai cymdeithasol a thynnu sylw at gyfleoedd lle gall y sector tai wneud mwy i gefnogi canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol - lliniaru pwysau, arbed arian i'r pwrs cyhoeddus a darparu gwasanaeth seiliedig yn y gymuned ar gyfer pobl leol.

"Mae cymdeithasau tai eisoes yn darparu addasiadau i gartrefi mewn partneriaeth gydag asiantaethau Gofal a Thrwsio, Gofal Ychwanegol a Thai Gwarchod, Gofal Nyrsio, Gofal Seibiant, gofal yn y cartref gyda nifer yn darparu cartrefi preswyl sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl a darpariaeth gofal arbenigol i'r anabl. Roedd 28 allan o'r 38 cymdeithas a gymerodd ran yn yr ymchwil hefyd yn darparu tai ynghyd â chymorth dan faner Cefnogi Pobl, yn cynnwys hostel a llety camu-lawr. Mae'r holl wasanaethau hyn yn cynnig y potensial i gefnogi gwell canlyniadau i bobl leol - darparu cefnogaeth yn nes i'w cartrefi."

Dywedodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru, sy'n rhan o grŵp CHC: "Yn ei datganiad ddoe, dywedodd Lesley Griffiths AC mai'r darlun mwy yw'r newid mewn ffordd o feddwl ac ymddygiad, gyda ffocws ar iechyd cadarnhaol a gwella ansawdd gofal a gwasanaethau yn seiliedig o amgylch pobl, i adeiladau. Mae gan y mudiad Gofal a Thrwsio lawer iawn i'w gynnig i Iechyd wrth eu helpu i gyflawni eu gweledigaeth. Am bob £1 a werir yn addasu cartref person hŷn, caiff £7.50 ei arbed o gyllidebau'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol, a gall yr addasiadau bach hyn olygu nad yw pobl yn gorfod mynd i ysbyty neu eu galluogi i fynd adref i'w cartrefi a'u cymunedau lawer ynghynt.

Y llynedd, amcangyfrifwyd fod codymau ymysg pobl hŷn yn costio £4.6 miliwn y dydd i'r GIG yn y Deyrnas Unedig. Mae llawdriniaeth clun newydd yn costio o leiaf £25,000 y tro. Amcangyfrifwyd fod blocio gwelyau yng Nghymru yn costio £30 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru. Mae un lleoliad gofal preswyl gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn costio tua £27,000 y flwyddyn. Bydd gweithio’n agos gyda Gofal a Thrwsio a'r sector tai cymdeithasol ar fesurau ataliol yn helpu pobl i gadw pobl yn byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a hefyd yn costio llai yn yr hirdymor i Lywodraeth Cymru."

Dynododd yr ymchwil gyfleoedd pellach ar gyfer cydweithio i gynyddu gwerth cyhoeddus gyda Chymdeithasau Tai yn cynnig cyfuniad o nodweddion a fedrai helpu'r GIG i weithredu eu gweledigaeth; maent yn bartneriaid trydydd sector, gyda chysylltiad agos â'u cymunedau a gallant godi cyfalaf ar y marchnadoedd. Mae ganddynt yr arbenigedd mewn adeiladu a rheoli asedau cyhoeddus ac mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn cynnig mynediad tebyg a dibynadwy i bobl hŷn a bregus. Dynodwyd pum cyfle allweddol yn gynnar: cefnogaeth rhyddhad cynnar o ysbyty mewn cynlluniau gofal ychwanegol a chartrefi nyrsio, ehangu gofal nyrsio dim er elw, cynyddu lefel y gofal sydd ar gael mewn cynlluniau tai gwarchod a gofal ychwanegol, cefnogaeth barhaus i alluogi pobl i fyw'n iachach adref gyda help asiantaethau Gofal a Thrwsio a phentrefi gofal parhaus cydfuddiannol.

Y prif rwystrau a ddynodwyd oedd perthynas anwastad rhwng GIG Cymru a chymdeithasau tai, darpariaeth seilo, ieithoedd a diwylliannau seilo, heriau caffaeliad a'r angen am dystiolaeth galed.

- DIWEDD -

Mae adroddiad llawn KAFKA ar gael yma.

Mae grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru - corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru, Care & Repair Cymru, y corff cenedlaethol sy'n gweithio i sicrhau fod gan bob person hŷn gartref diogel, sicr ac addas ar gyfer eu hanghenion a CREW, canolfan rhagoriaeth adfywio Cymru.

Cafodd y ffigur £46 miliwn ei gyfrif fel sy'n dilyn:

Cyllid Gofal a Thrwsio ar gyfer 2011-12

Cyllid craidd £4,094,396.00

Cyllid cyfalaf Rhaglen Addasiadau Brys £1,641,000.00

Cyllid refeniw Rhaglen Addasiadau Brys £433,312.00

Cyfanswm cyllid £6,168,708.00

Lluosir gan £7.50 £46,265,310.00