30 Tachwedd 2011 - CARTREFI DIOGELACH AR GYFER POBL HŶN - Grant £15,000 gan y Cyngor Diogelwch Trydanol i Asiantaethau Gofal a Thwsio
Tachwedd 2011
CARTREFI DIOGELACH AR GYFER POBL HŶN
Grant £15,000 gan y Cyngor Diogelwch Trydanol i Asiantaethau Gofal a Thwsio
Mae pedair asiantaeth Gofal a Thrwsio yn gweithio yn Ynys Môn, Sir y Fflint, Blaenau Gwent a Chaerdydd wedi derbyn cyfanswm o £15,000 gan y Cyngor Diogelwch Trydanol (ESC) i wneud gwaith trydanol hanfodol yng nghartrefi pobl hŷn agored i niwed yng Nghymru. Rhoddwyd y cyllid drwy Gynllun Grantiau Gwella Cartref yr ESC, sy'n cefnogi sefydliadau lleol i helpu grwpiau bregus i fyw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn gweithio i sicrhau fod gan bob person hŷn gartref diogel, sicr ac addas ar gyfer eu hanghenion ac i'r pedair asiantaeth fydd yn derbyn y cyllid, aiff y £15,000 ychwanegol ymhell tuag at gyflawni'r nod yma.
Yn ogystal â darparu cyllid ar gyfer mân waith trydan hanfodol sy'n cefnogi diogelwch a lles, mae cynllun ESC hefyd yn anelu i helpu mewn sefyllfaoedd o argyfwng, megis gwaith trwsio a fedrai gynorthwyo person i ddychwelyd adref o'r ysbyty neu i atal person rhag mynd i ysbyty am gyfnod maith, gan arbed miliynau o bunnau i gyllidebau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cymdeithasol bob blwyddyn. Gall y math o waith a wneir amrywio o atgyweirio goleuadau i wirio diogelwch cyfarpar trydanol.
Wrth siarad am y grant, dywedodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: "Bydd grant yr ESC yn ein galluogi i ymateb yn gyflym i rai sefyllfaoedd a fedrai fod yn beryglus iawn, gan ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y galwadau gan bobl hŷn na all fforddio cost gwaith trydanol. Ond mae'n fwy na dim ond atgyweirio cartrefi pobl; mae hefyd yn ymwneud â thawelwch meddwl a gwella ansawdd bywyd."
Nodiadau i'r Golygydd:
- Mae'r Cyngor Diogelwch Trydanol (ESC) yn elusen yn y Deyrnas Unedig sydd ag ymrwymiad i ostwng marwolaethau ac anafiadau a achosir gan ddamweiniau trydanol adref ac yn y gwaith.
- Y llynedd, dyfarnwyd cyfanswm o £80,000 i 17 sefydliad drwy Gynllun Grantiau Gwella Cartref yr ESC gyda 662 o aelwydydd yn elwa o'r cyllid oedd ar gael.
- Mae Care & Repair Cymru yn aelod o Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru ac ef yw'r corff cenedlaethol ar gyfer Gofal a Thrwsio yng Nghymru - Hyrwyddwyr Tai Pobl Hŷn.
- Mae'r 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio ledled Cymru yn helpu pobl hŷn i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain gyda mwy o annibyniaeth ac urddas. Cyflawnir hyn drwy wneud a hwyluso gwaith addasu, trwsio a gwelliannau ar gyfer pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain.
- Derbyniodd yr asiantaethau'r symiau dilynol:
- Gofal a Thrwsio Ynys Môn: £5,000
- Gofal a Thrwsio Sir y Fflint: £2,500
- Gofal a Thrwsio Blaenau Gwent: £5,000
- Gofal a Thrwsio yng Nghaerdydd: £2,500

