30 Tachwedd 2011 - Gwasanaeth Gwaith Achos Cynhesrwydd Fforddiadwy Gofal A Thrwsio Caerdydd

30th November 2011

28 Tachwedd 2011

 Gofal a Thrwsio Caerdydd yn derbyn hwb gwerth mwy na £215,000 i helpu lliniaru tlodi tanwydd i bobl hŷn yng Nghaerdydd

Mae Gofal a Thrwsio Caerdydd wedi derbyn £215,949 gan Gronfa’r Loteri Fawr i’w galluogi i ddarparu gwasanaeth newydd gyda’r nod o liniaru tlodi tanwydd i bobl hŷn sy’n byw yng Nghaerdydd.

 Mae tlodi tanwydd yn cael ei ddioddef gan unrhyw un sy’n gorfod gwario 10% neu ragor o’u hincwm er mwyn cynhesu eu cartref i lefel ddigonol. Mae ffigyrau diweddar yn amcangyfrif fod 332,000 o gartrefi yng Nghymru mewn tlodi tanwydd.  

 Mae tlodi tanwydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles cymdeithasol ac economaidd pobl hŷn. Yn ogystal ag achosi gwaeledd a gwneud afiechydon presennol yn waeth, gall diffyg cynhesrwydd digonol effeithio ar allu corfforol ac o ganlyniad gynyddu’r perygl o gwympo. 

 Mae yna gysylltiad hefyd rhwng tlodi tanwydd a niferoedd marwolaethau gormodol ymysg pobl hŷn sy’n digwydd yn ystod misoedd y gaeaf a chynnydd sylweddol yn yr angen am wasanaethau ysbytai. Yn ôl ffigurau swyddogol, roedd 1,900 o ‘farwolaethau gaeaf gormodol’ yng Nghymru y gaeaf diwethaf a disgwylir i'r ffigur godi eto y gaeaf hwn.

 Dywedodd Rheolwr Gofal a Thrwsio Caerdydd, Richard Thomas, 'Mae pobl hŷn yn arbennig o fregus wrth wynebu effeithiau tlodi tanwydd. Mae’r sefyllfa’n annhebyg o wella wrth i brisiau cynyddol tanwydd barhau i daro’r bobl fwyaf bregus galetaf. Mae rhai pobl hŷn yn aml yn wynebu dewisiadau hynod anodd fel ‘bwyd neu wres’. Rydyn ni’n wirioneddol falch fod Cronfa’r Loteri Fawr wedi rhoi’r cyllid yma i ni i fynd i’r afael â rhai o’r problemau hyn.”  

 Wrth longyfarch Gofal a Thrwsio Caerdydd ar eu cais llwyddiannus i Gronfa’r Loteri Fawr dywedodd Chris Jones, Rheolwydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: “Bydd y gwasanaeth newydd, arloesol hwn yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau llawer o bobl hŷn yng Nghaerdydd. Nid yn unig y bydd yn rhoi cymorth ymarferol i  gwrdd â biliau ynni cleientiaid, sy’n cynyddu trwy’r adeg, bydd hefyd yn helpu i roi mwy o dawelwch meddwl i fwy o bobl hŷn sy’n pryderu am dalu eu biliau.”

 Nod Gwasanaeth Gwaith Achos Gofal a Thrwsio Caerdydd yw helpu lliniaru tlodi tanwydd i 1,000 o bobl hŷn sy’n byw yng Nghaerdydd dros y 3 blynedd nesaf. Bydd y gwasanaeth yn darparu cyngor, cefnogaeth a chymorth i bobl hŷn ynglŷn â: 

  • gwaith trwsio a chynnal a chadw a allai gael ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi
  • mesurau arbed ynni a chynghorion y gellid eu dilyn i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon o fewn eu cartrefi
  • pwrcasu tanwydd ac ynni mewn ffordd fwy addas
  • cynyddu incwm trwy adnabod unrhyw fudd-daliadau sydd ddim yn cael eu hawlio neu ddarpar flwydd-daliadau y gallai pobl hŷn fod yn gymwys i’w derbyn.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Helen Ball, Cydlynydd Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd ar 029 20 468427 neu e-bostiwch helen.ball@ccha.org.uk.

Cliciwch yma i ddarllen yr Astudiaeth Achos 

 Nodiadau i’r golygydd

Asiantaeth ddim-er-elw yw Gofal a Thrwsio Caerdydd, sy’n bodoli er mwyn helpu pobl hŷn i wneud mwy o waith trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau neu addasiadau i’w cartrefi. Mae’r Asiantaeth yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru  a Chyngor Caerdydd, a’i chartrefu, ei hariannu a’i chefnogi gan Gymdeithas Tai Cymuned Caerdydd. 

 Mae Cronfa’r Loteri Fawr yn dosbarthu hanner cyllid achosion da'r Loteri Genedlaethol ledled y Deyrnas Unedig. Nod y Gronfa yw galluogi eraill i wneud gwir welliannau i’w cymunedau ac i fywydau’r bobl sydd mewn mwyaf o angen.