11eg Ionawr 2012 - Sylw i faterion pobl hŷn yn y Senedd

11th January 2012

11 Ionawr 2012

Sylw i faterion pobl hŷn yn y Senedd

“Rhaid i bolisïau llywodraeth ymateb i boblogaeth sy'n heneiddio", meddai penaethiaid elusen

Disgwylir y bydd iechyd da, mynediad i hyfforddiant ac annibyniaeth i bobl hŷn yn rhai o'r pynciau fydd yn cael sylw yn y Senedd heddiw (dydd Mercher 11 Ionawr).

Mae Cynghrair Henoed Cymru yn dod â dros 60 o bobl hŷn o bob rhan o Gymru i Fae Caerdydd i siarad gyda'u Haelodau Cynulliad am y materion sydd yn bwysig iddynt.

Dywedodd Sarah Rochira, Cadeirydd Cynghrair Henoed Cymru a Phrif Weithredydd RNIB Cymru

“Mae Cynghrair Oed Cymru yn gynghrair o sefydliadau cenedlaethol sy'n cydweithio gyda a thros bobl hŷn ym mhob rhan o'r wlad.

"Gyda phoblogaeth Cymru'n heneiddio - ac yn heneiddio'n gyflymach na gweddill y Deyrnas Unedig, mae'n hollbwysig bod polisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu ac yn diwallu’n effeithiol anghenion pobl hŷn. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo yng Nghymru ond hefyd lawer y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef fel mater o frys.

"Mae creu cyfleoedd ar gyfer pobl hŷn i ddylanwadu ar lywodraeth yn rhan bwysig o'r broses. Dyna pam ein bod wedi trefnu digwyddiad heddiw i roi cyfle i bobl hŷn ddweud wrth eu Haelodau Cynulliad am realaeth bod yn berson hŷn yng Nghymru heddiw."

Dywedodd Chris Jones, sy'n aelod o'r Gynghrair Henoed ac yn rheolydd gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: "Gwyddom o 25 mlynedd o brofiad o helpu pobl hŷn i drwsio ac addasu eu cartrefi fod cartref cynnes, diogel a chlud yn cyfrannu'n sylweddol at iechyd a lles person. Mae helpu pobl hŷn i barhau'n ddiogel yn eu cartref eu hunain cyhyd ag sy'n bosibl nid yn unig yn helpu i arbed arian ar gyfer cyllidebau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol, ond dyma'r hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud wrthym y maent ei angen. Gobeithiwn y bydd clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn ba wasanaethau sy'n gweithio a'r hyn y medrir ei wella, yn helpu Aelodau Cynulliad pan maent yn datblygu polisïau yn y dyfodol fydd yn effeithio ar ein poblogaeth heneiddiol."

Bydd Mr a Mrs Jones o Gasnewydd hefyd yn bresennol yn y digwyddiad. Mae gan y ddau ohonynt anableddau corfforol a materion iechyd. Bu Gofal a Thrwsio Casnewydd yn gweithio gyda'r cwpl ers 2007 ac maent wedi cwblhau gwaith addasu sylweddol dan Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn cynnwys cawod mynediad gwastad, lifft grisiau crwm a stepiau iddynt fedru cerdded i fynedfa flaen eu cartref.

Dywedodd Mrs Jones (82): "Hoffwn ddiolch i Gofal a Thrwsio Casnewydd am eu hymagwedd sensitif ar fy anghenion ymarferol; mae eu cyngor cyfeillgar a defnyddiol wedi rhoi mwy o hyder i mi - rwy'n teimlo 10 mlynedd yn iau! Gemau - yr Olympiad - fedra'i ddim aros! Ni all y rhai sy'n dod â'r heulwen i fywydau pobl eraill ei gadw rhagddynt eu hunain."

Cynhelir digwyddiad Cynghrair Oedran Cymru yn y Senedd am 12-1.30p.m.

DIWEDD

CYSWLLT

Ar gyfer holl ymholiadau'r cyfryngau, cysylltwch â Rachel Lewis ar 029 2043 1554, Rachel.lewis@agealliancewales.org.uk

NODIADAU I'R GOLYGYDD:

 

  • Sefydlwyd Cynghrair Henoed Cymru yn 2003 ac fe'i hariannir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n gynghrair rymus o 20 o sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol sydd ag ymrwymiad i gydweithio i ddatblygu'r fframweithiau deddfwriaethol, polisi ac adnoddau fydd yn gwella bywydau pobl hŷn yng Nghymru.

 

  • Rhyngddynt, mae gan y sefydliadau sy'n aelodau o Gynghrair Henoed Cymru wybodaeth helaeth o ddatblygu gwasanaeth a chyflenwi gwasanaeth mewn amrywiaeth o feysydd polisi. Mae'r holl sefydliadau hefyd yn gweithredu ar lefel strategol a gweithredol ac mae llawer ohonynt yn seiliedig ar aelodaeth.

 

  • Mae'r sefydliadau dilynol yn aelodau o Gynghrair Henoed Cymru: Action on Hearing Loss Cymru; Abbeyfield Cymru; Age Cymru; Anabledd Cymru; Care & Repair Cymru; Carers Wales; Contact the Elderly; CSV-RSVP Cymru; Cynhalwyr Cymru; Croesffyrdd Cymru; Cruse Cymru; Cymdeithas Alzheimer Cymru; Cymdeithas Strôc Cymru; Deafblind Cymru; Independent Age; NIACE Dysgu Cymru; PRIME Cymru; Prifysgol y Trydydd Oed yng Nghymru; RNIB Cymru; WRVS.


Nod Cynghrair Henoed Cymru yw:

  • cynrychioli pryderon a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn yng Nghymru gerbron gwneuthurwyr polisi, cynllunwyr strategol, a chyllidwyr,
  • gwneud y gorau o allu pob sefydliad sy'n aelodaui i gyflawni ei rôl o hyrwyddo lles pobl hŷn yng Nghymru, a
  • gweithio gyda, a thros bobl hŷn drwy ddefnydd cydweithredol o'r wybodaeth a'r arbenigedd a gynhwysir o fewn aelodaeth Cyngor Henoed Cymru.

Mae mwy o wybodaeth ar Gynghrair Oedran Cymru ar gael yn www.agealliancewales.org.uk