16eg Ionawr 2012.Gweithio i ostwng tlodi tanwydd ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru - Edwina Hart AC yn ymweld â chleient Gofal a Thrwsio ar gyfer yr Wythnos Ynni Fawr
Edwina Hart AC yn ymweld â chleient Gofal a Thrwsio ar gyfer yr Wythnos Ynni Fawr
Heddiw yw dechrau'r Wythnos Ynni Fawr a bydd Asiantaethau Gofal a Thrwsio ar draws Cymru yn cymryd rhan i sicrhau y gall pobl hŷn yng Nghymro fforddio i barhau i fyw mewn cartref sy'n gynnes ac addas ar gyfer eu hanghenion.
Y llynedd cynorthwyodd y 22 asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghymru 1,953 o bobl hŷn gyda help penodol i atal tlodi tanwydd a helpu 1,074 cleient i gynyddu eu hincwm gan gyfanswm o dros £2 miliwn drwy gynnal gwiriadau ar fudd-daliadau.
Bu Gofal a Thrwsio hefyd yn hwyluso cynllun o'r enw 'Iechyd Trwy Gynhesrwydd', a ariannir gan Npower. Sefydlwyd y gronfa £50,000 i helpu pobl hŷn y caiff ei iechyd ei waethygu gan amodau byw oer a llaith ac nad oes ganddynt wresogi ac insiwleiddiad digonol. Yn ystod y cyfnod peilot (Mehefin i Ragfyr 2011), helpodd Gofal a Thrwsio 40 o gleientiaid ychwanegol ar draws Cymru a defnyddiwyd y cyllid i sicrhau £40,000 ychwanegol gan ffynonellau eraill megis elusennau ac ymddiriedolaethau. Defnyddiwyd y cyllid i dalu tuag at fesurau gwresogi ac insiwleiddio ar gyfer pobl hŷn gyda 95% o gleientiaid wedi cael help i drwsio eu boeleri gwres canolog neu osod rhai newydd.
Mae Ms Brice, 80, o Gaerdydd yn dioddef o ffibrosis ysgyfeiniol ac arthritis ac mae'r oerfel yn gwaethygu'r cyflyrau hyn. Roedd y boeler gwres canolog yn ei charter yn ddeg mlynedd ar hugain oed ac yn ogystal â bod yn aneffeithiol roedd yn torri lawr o hyd. Nid oedd gan Ms Brice unrhyw gynilon ac roedd yn methu talu am foeler newydd ei hun. Roedd yn derbyn credyd pensiwn a budd-dal anabledd.
Dywedodd Ms Brice: "Roedd cost boeler newydd dros £3000. Fe wnes gysylltu â Gofal a Thrwsio i weld os medrent helpu ond doeddwn i erioed yn meddwl y byddent yn medru sicrhau'r arian roeddwn ei angen. Fe ddaeth aelod o staff draw i fy ngweld a thrafod beth oeddwn ei angen. Roedd yr hen foeler yn aneffeithiol ac yn torri lawr o hyd ac roedd yn rhaid i mi dwymo tanc cyfan o ddŵr er mwyn golchi'r llestri. Rwyf ar fy mhensiwn a gyda chost ynni'n codi, roeddwn yn wirioneddol bryderus na fyddwn yn medru cynhesu fy nhŷ. Defnyddiodd Gofal a Thrwsio £1805 o'r gronfa Iechyd Trwy Gynhesrwydd a hefyd gysylltu â nifer o elusennau eraill yn cynnwys Supporting Friends a St John Lloyd i gael gweddill yr arian. Fedrwn ni ddim credu pan wnaethon nhw ddweud wrthyf eu bod wedi codi'r swm llawn a hyd yn oed wedi canfod rhywun i symud yr hen foeler a gosod yr un newydd. Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i fi. Mae fy nghartref yn gynnes, dim ond faint o ddŵr rwy'n ei ddefnyddio rwy'n gorfod ei gynhesu ac rwy'n sicr y bydd fy miliau'n llawer is o'r herwydd."
Dywedodd Edwina Hart AC: "Roeddwn yn hynod falch i glywed sut mae cynllun npower Iechyd Trwy Gynhesrwydd yn cydweithio gyda Care & Repair Cymru er budd pobl agored i niwed yng Nghymru. Mae'r cysylltiadau gydag asiantaethau Gofal a Thrwsio yn werthfawr iawn ac yn ei gwneud yn bosibl i ddod â'r adnoddau ariannol sydd ar gael i gael mwy o effaith drwy gydlynu gan y gweithwyr achos."
Ychwanegodd Chris Jones, Rheolydd Gyfarwyddydd Care & Repair Cymru: "Mae ein partneriaeth gyda npower drwy'r cynllun Iechyd Trwy Gynhesrwydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i rai o'n cleientiaid mwyaf agored i niwed. Mae cael cartref cynnes yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei gymryd yn ganiataol ond mae'n ofid gwirioneddol ar gyfer llawer o bobl hŷn. Yn ogystal â sut i dalu'r biliau, mae'n ymwneud â sut i dalu am waith trwsio neu osod gwresogyddion neu fwyleri newydd yn lle rhai sydd wedi torri. Mae'r cynllun Iechyd Trwy Gynhesrwydd yn helpu i lenwi bwlch pan nad oes unrhyw help arall ar gael ac mae'n rhaid bod hynny'n beth da."
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Edwina O’Hart
Ffôn: 02920 557414 neu Symudol: 07791898497 E: edwina-ohart@chcymru.org.uk
I glywed stori Ms Brice - cliciwch yma: http://youtu.be/HCUDHXiXXzc
Diwedd
Nodyn i'r Golygydd
Mae'r Wythnos Ynni Fawr yn ymgyrch genedlaethol rhwng 16 - 21 Ionawr a drefnir gan Cyngor Ar Bopeth.
Care & Repair Cymru yw'r corff cenedlaethol ar gyfer Gofal a Thrwsio yng Nghymru, sy'n Hyrwyddwyr Tai Hŷn. Mae'r 22 Asiantaeth Gofal a Thrwsio ledled Cymru'n gweithio i sicrhau fod gan bob person hŷn gartref diogel, clyd ac addas ar gyfer eu hanghenion.

