Newyddion PolisiMae Care & Repair Cymru yn gweithio i geisio dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol; yn benodol y polisïau sy'n effeithio pobl hyn yng Nghymru. Byddwn yn gwneud hynny wrth ddefnyddio arbenigedd mudiad Gofal a Thrwsio a chydweithio mewn partneriaeth â chyrff cenedlaethol eraill. EIN DULLIAU GWEITHREDU? Rhwydweithiau & partneriaethau Byddwn yn helpu i ddatblygu polisïau wrth fod yn rhan o 'grwpiau arbenigol', er enghraifft y grwp ymgynghorol a ddatblygodd y Strategaeth Pobl Hyn, y grwp cynllunio gweithredu ar gyfer Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Pobl Hyn a rhwydweithiau a phartneriaethau cenedlaethol eraill. Mae'r partneriaethau a rhwydweithiau'n cynnwys: Fforwm Tai Cymru Cynghrair Henoed Cymru Rhwydwaith Pobl Hyn a Heneiddio (rhwydwaith ymchwil) Grwp Llywio Cadw'n Iach dros y Gaeaf Ymgynghori Ar lefel genedlaethol, byddwn yn ymateb i bapurau ymgynghorol y Cynulliad a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth lafar i bwyllgorau'r Cynulliad. Byddwn yn gwrando ar anghenion a phrofiadau pobl hyn wrth gydweithio'n agos ag Asiantaethau Gofal a Thrwsio. Ein profiadau ni a rhai'r Asiantaethau wrth gydweithio â phartneriaid lleol sy'n symbylu ein hymateb i strategaethau a pholisïau. Cylchlythyrau, dogfennau a fforymau Byddwn yn gweithio'n galed i hysbysu rheolwyr Asiantaethau o ddatblygiadau ym meysydd polisi yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig wrth gynnal gwahanol weithgareddau. Mae ein pecyn dosbarthu misol yn trafod y newyddion diweddaraf, datblygiadau polisi, cyrsiau hyfforddi a manylion cyrff cyllido, gwefannau defnyddiol a phapurau gwybodaeth. Tîm rhanbarthol Care & Repair Cymru yw'r ddolen gyswllt rhwng y swyddfa genedlaethol a'r Asiantaethau. Mae'n gyfrifol am fwydo gwybodaeth o'r swyddfa genedlaethol i'r rheolwyr ac o'r rheolwyr i gydweithwyr ar y tîm cenedlaethol. Bydd hefyd yn trefnu fforymau ar gyfer staff a rheolwyr yr Asiantaethau. Nodir y newyddion polisi diweddaraf yn yr adran Hysbys Polisi |
